成人快手

Merched Mawreddog: Elaine Morgan

  • Cyhoeddwyd

Wrth i bobl Cymru gael eu gwahodd i bleidleisio am y ferch Gymreig go iawn gyntaf i gael ei hanfarwoli fel cerflun yn yr awyr agored fel rhan o brosiect Merched Mawreddog, Cerys Matthews sy'n edrych ar gyfraniad y dramodydd a'r damcaniaethwr, Elaine Morgan.

Mae modd pleidleisio dros bwy rydych chi'n credu yw'r fenyw ddylai gael ei hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus, a darganfod mwy amdanynt, ar wefan bbc.co.uk/merchedmawreddog.

Disgrifiad,

Merched Mawreddog: Elaine Morgan

Elaine Morgan - Awdur teledu arloesol, eicon ffeministaidd, damcaniaethwr esblygiadol

Ganwyd: Trehopcyn, 1920

Marwolaeth: Aberpennar, 2013

Dyfyniad allweddol: "Roeddwn i'n meddwl eu bod yn rhoi gogwydd gwrywaidd gormodol ar esblygiad. Roedden nhw'n ei gymryd yn ganiataol bod esblygiad yn cynnwys gwneud pethau'n well i'r heliwr gwrywaidd cryf... a meddyliais, beth amdani hi? A beth am y plant? Roeddwn am ysgrifennu llyfr o'u safbwynt nhw. Beth am esblygiad menywod?"

Roedd Elaine Morgan yn fenyw 芒 llawer o ddoniau a newidiodd y byd o'i desg yn Aberpennar.

Roedd yn rhagori yn y celfyddydau ac mewn gwyddoniaeth, a daeth yn awdures deledu flaenllaw, yn eicon ffeministaidd ac yn ddamcaniaethwraig arloesol ym maes esblygiad.

Cafodd ei geni i deulu tlawd o lowyr, ac enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen. Pan gyrhaeddodd, clywsant ei hacen a thybio ei bod hi'n gwneud cais am swydd fel glanhawr. Ond daeth Elaine i fod yn fyfyrwraig nodedig, yn cadeirio cymdeithasau gwleidyddol ac yn hogi ei sgiliau llenyddol.

Ar 么l graddio dysgodd am dair blynedd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Yn briod a gyda thri mab erbyn y 1950au, dechreuodd ysgrifennu dram芒u i'w helpu i gael dau ben llinyn ynghyd. Derbyniwyd ei sgriptiau teledu cyntaf cyn iddi fod yn berchen ar set deledu hyd yn oed.

Dram芒u a gwyddoniaeth

Mewn gyrfa oedd yn cwmpasu mwy na 30 mlynedd, enillodd nifer o wobrau a sgriptiodd rai o'r dram芒u mwyaf annwyl yn hanes y teledu - gan gynnwys How Green Was My Valley, Testament of Youth a The Life and Times of Lloyd George.

Esboniodd Sian Phillips, wnaeth serennu yn How Green Was My Valley, ei dawn i ysgrifennu ar gyfer y sgrin: "Roedd adeg pan oedd yr awdur yn frenin ac roedd hi'n un o'r s锚r. Os oeddech chi'n gweld yr enw hwnnw ar eich sgript yna roeddech chi wir eisiau ei wneud."

Ychwanegodd: "Roedd hi'n gallu creu plotiau gwych. Roedd hi'n stor茂wr da iawn i ddechrau arni felly nid oedd angen gwneud unrhyw f芒n newidiadau. Dim gair."

Fe wnaeth sgript Elaine ar gyfer rhaglen ddogfen Horizon am Joey Deacon, y codwr arian anabl, ennill y Prix Italia iddi yn 1975, ac fe wnaeth ei chyfresoliad o gofiant Vera Brittain o'r rhyfel, Testament of Youth, ennill gwobr awdur y flwyddyn y Gymdeithas Deledu Frenhinol iddi yn 1979.

Yn yr 1970au, trodd Elaine ei ffocws at wyddoniaeth, gan herio nerth y sefydliadau gwrywaidd eu byd gyda theori newydd ynghylch esblygiad dynol.

Yn ei llyfr The Descent of Woman, roedd hi'n dadlau nad oedd esblygiad dynol yn ymwneud 芒'r heliwr gwrywaidd pwerus yn unig - roedd merched yn rhan lawn mor hanfodol o'r stori.

Roedd The Descent of Woman yn llwyddiant byd-eang ar unwaith. Yn cael ei hystyried yn America fel arwres ffeministaidd, daeth llyfr Elaine yn destun allweddol ym mudiad Rhyddhad y Merched. Yn yr Unol Daleithiau datblygodd yn rhywun enwog wrth iddi gael ei gwahodd i hyrwyddo ei llyfr ar y teledu mewn taith arfordir i arfordir.

Aeth ymlaen i gyhoeddi llawer mwy o lyfrau ar esblygiad - gan gynnwys The Aquatic Ape (1982), a wnaeth unwaith eto ddal sylw; The Scars of Evolution (1990); The Descent of the Child (1994); The Aquatic Ape Hypothesis (1997); a The Naked Darwinist (2008).

Yn cael ei hyrwyddo gan Syr David Attenborough, roedd hi'n dal i gael ei gwahodd i drafod ei syniadau ledled y byd ymhell i'w henaint. Gwyliodd fwy na miliwn o bobl y ddarlith ar y rhyngrwyd a roddwyd gan Elaine pan oedd yn 89 oed. Yn nes adref, roedd hi'n dal i ysgrifennu ei cholofn glodfawr i'r Western Mail yn ei 90au.

Penodwyd hi'n OBE yn 2009 ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn yr un flwyddyn.

Roedd hi'n ferch o'r Cymoedd hyd y diwedd - cafodd effaith drwy'r byd i gyd, ond ni throdd ei chefn ar ei gwreiddiau Cymreig.