Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dylai newyddion am Gymru fod yn amod trwyddedau radio'
Dylai newyddion am Gymru fod yn un o'r prif amodau wrth ddyfarnu trwyddedau radio masnachol lleol, yn 么l Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r pwyllgor am i Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) llywodraeth y DU gyflwyno rheoliadau i sicrhau bod gorsafoedd masnachol lleol sy'n darlledu yng Nghymru yn cynnwys newyddion neilltuol i Gymru ochr yn ochr 芒 chynnwys lleol a chynnwys am y DU.
Ar hyn o bryd mae'r DCMS wrthi'n ystyried cynigion i ddadreoleiddio diwydiant radio masnachol y DU, gan ei gwneud yn haws i orsafoedd newid fformatau, y gerddoriaeth a'r safleoedd y darlledir ohonynt.
'Gorsafoedd y 成人快手 yn boblogaidd'
Mae bron i hanner holl wrandawyr radio yng Nghymru yn gwrando ar orsafoedd rhwydwaith y 成人快手 ac mae'r pwyllgor yn galw ar i'r 成人快手 ymchwilio i opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth optio allan i Gymru.
Mae'r pwyllgor yn nodi bod radio cymunedol yn adnodd gwerthfawr i gymunedau lleol ledled y wlad ac maent am i Lywodraeth Cymru ystyried ailagor ei chronfa Radio Cymunedol.
Mae hefyd am i gyrff cyhoeddus wario mwy o'u refeniw marchnata a hysbysebu i gefnogi gorsafoedd radio cymunedol.
Dywedodd Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: "Rydym o'r farn y dylai gorsafoedd radio sy'n darlledu yng Nghymru fod 芒 gogwydd Cymreig.
"Maent yn dal i fod yn bwysig o ran sut mae pobl yn dysgu am yr hyn sy'n digwydd yn y byd neu yn eu milltir sgw芒r, ond yr ydym am weld rheoliadau newydd yn cael eu cyflwyno i helpu pobl i ddeall yn well yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru a sut mae'n effeithio ar eu bywydau.
"Mae gan y 成人快手 y gyfran fwyaf o'r farchnad trwy ei orsafoedd rhwydwaith. Hoffem weld ymchwilio pellach i sut y gellir darparu gwasanaeth optio allan i Gymru a beth sydd angen ei wneud i oresgyn y rhwystrau i hynny.
"Mae gan orsafoedd radio cymunedol r么l werthfawr i'w chwarae i bob math o bobl ledled y wlad. Mae cefnogi'r gorsafoedd hyn yn allweddol i sicrhau bod cynnwys amrywiol a pherthnasol ar gael i gymunedau lleol, a dyna pam ein bod o'r farn y gallai cyrff cyhoeddus ddefnyddio'u gwariant marchnata a hysbysebu yn fwy eang."
'Y radio yn llwyfan'
Mae'r pwyllgor wedi gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad.
Yn ogystal 芒 rhoi pwyslais ar newyddion Cymreig mae'r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud defnydd helaethach o orsafoedd Radio Cymunedol ar gyfer ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus.
Mae'r pwyllgor yn dweud y dylid hefyd "ddarparu canllawiau i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i'w hannog i ddefnyddio a gweithio gyda gorsafoedd radio cymunedol fel llwyfan cyfathrebiadau ac ymgysylltu".