Newid bywyd ar 么l FFIT Cymru
- Cyhoeddwyd
Chwe mis wedi i gyfres S4C FFIT Cymru ddod i ben, mae Cymru Fyw wedi siarad ag un o'r arweinwyr, Judith Owen. Fe gollodd Judith st么n a hanner o bwysau yn ystod y gyfres, gan drawsnewid ei gwedd a'i ffordd o fyw.
Ond beth ddigwyddodd ar 么l i'r gyfres orffen? Ydy Judith wedi cadw ati? A beth yw'r cynllun ar gyfer y Nadolig? Dyma ei stori.
Mae FFIT Cymru wedi newid fy mywyd i. Un o'n ngwendidau mwya' i cyn y rhaglen oedd clustnodi amser i fi fy hun. Dw i 'm'ond r'un fath 芒 phob mam priod arall - mae'n bywydau ni gyd mor brysur, mae pawb arall yn cael blaenoriaeth.
Ac roedd hi'n hanner esgus bod gen i ddim yr amser i fod yn g'neud mwy o waith corfforol. O'n i wedi bodloni byw yn y swigen 'ma oedd yn dweud - 'na, mae'n oc锚. Mae gen ti ddigon o esgusodion, does dim rhaid i ti wneud.'
Y trawsnewid mwyaf
Pan ddaeth cyfle FFIT Cymru, newidiodd popeth. Dyw 'mywyd i ddim llai prysur r诺an - os rhywbeth, mae'n fwy prysur. Dyna yw'r trawsnewid mwyaf - dw i'n cyfri' g'neud addysg gorfforol yn rhan o nyletswyddau i ac yn rhan o'n amserlen wythnosol.
Dw i'n clustnodi amser yn fy nyddiadur a dw i'n gwybod yn union pa ddiwrnod bydda' i'n gwneud beth. Fel arfer mae gen i batrwm a dw i'n trio 'ngorau glas i sticio i hwnnw.
Chwe mis yn 么l buaswn i byth yn dychmygu 'mod i'n gallu rhedeg 5km, heb s么n am ddiddori mewn gwneud triathlons. 'Nes i neud duathlon ym mis Medi sef rhedeg, beicio a rhedeg eto a dw i'n bwriadu gwneud tair triathlon yn 2019.
Cefnogaeth y teulu
Yn ystod y rhaglen 'oedden ni'n gwybod ein bod yn gwneud y ras yng Nghastellnedd. Ond pan orffennodd y rhaglen 'oedd o i fyny i fi i osod y nod a dyna pam benderfynais i 'mod i'n mynd i 'neud duathlon Sandman yn Llanddwyn.
Dw i'n ffodus iawn fod fy ng诺r yn ymddiddori mewn triathlon a heriau Iron Man ac yn dweud 'gwna hyn' a 'meddylia am hyn'. Mae hynny'n gwneud o'n llawer haws achos mae'r anogaeth a'r gefnogaeth teuluol yn gryf yma.
'Oedden ni'n bwyta'n iach yma cyn dechrau FFIT Cymru ond er bod ni'n bwyta'n iach, 'oedden ni'n bwyta llawer gormod o fwyd. Mewn ffordd 'o'n i'n dyblu'r calor茂au, er bod nhw'n galor茂au iach. Unwaith i'r rhaglen stopio, er 'mod i ddim yn pwyso bwyd, 'oedd syniad gen i faint 'o'n i fod i fwyta.
'Da ni'n dweud yn t欧 ni'n aml - 'Reit, 'da ni'n mynd i gael wythnos FFIT Cymru' a pwyso bob dim ac mae e'n cael effaith drwy newid pethau bach, bach.
Cynllun dros yr 诺yl
Gwell gofyn ar 么l Nadolig...!
Wel, pob diwrnod dw i'n dweud wrth fy hun - mae gen i hyn a hyn o galor茂au o ran snacks. Os dw i wedi cymryd paced o greision, dw i wedi cael fy snack. Felly gyda'r nos dw i'n dweud 'dim diolch' os ydy pawb arall yn cael siocled.
Wedyn fy adduned yn y flwyddyn newydd yw i wella'r nofio. 'Dw i mwy ffit r诺an na dw i wedi bod ers 20 mlynedd, ond 'dw i dal i nofio'n wan iawn a 'dw i'n cael hynny'n anodd i dderbyn. Dw i'n mynd i wersi nofio ar gyfer hyfforddi ar gyfer triathlons bob wythnos a fy ng诺r i sy'n dysgu'r gwersi nofio!
Dw i'n cofio geiriau'r hyfforddwr ffitrwydd Rae Carpenter, 'Gyda gwaith caled, fe ddaw llwyddiant'. Dw i'n cofio hynny o hyd ac mae'n wir. Y mwya' o waith caled 'dach chi'n rhoi i mewn, y mwya' 'dach chi'n gweld eich hun yn gwella. Unwaith 'dach chi wedi gwella mewn rhywbeth, gosodwch nod newydd. Progress ydi o trwy'r amser.
Newid fel person
Dw i'n llawer mwy bywiog. Mae 'nheulu i'n dweud bo' fi'n hapusach person. Maen nhw'n gweld mwy o newid ynof fi na fi fy hun. Dw i'n meddwl bo' fi wedi cario rhyw euogrwydd cyn FFIT Cymru - os dw i'n mynd i redeg, mae pawb arall yn gorfod aberthu rhywbeth. Dydi hynny ddim yn wir.
Mae'n trefn bywyd ni yn wahanol - ar nos Fercher, 'da ni'n gollwng y genod yn hoci a 'da ni'n mynd i'r clwb rhedeg. Mae pawb o'r teulu yn gwneud ymarfer corff y noson hynny. Mae'n fater o weithio pethau allan.
Mae fy hyder wedi newid. Buaswn i ddim yn dweud 'mod i'n berson dihyder cynt ond falle 'mod i'n ddihyder o ran beth 'o'n i'n gallu ei gyflawni yn bersonol. Dw i'n teimlo bod hynny wedi newid achos dw i'n chwilio am sialens drwy'r amser r诺an.
'The world's your oyster' - dw i ddim yn bodloni a does dim ffasiwn beth 芒 'dw i ddim yn gallu'. Mae amser yr esgusodion wedi mynd. Mae wedi gwneud i fi sylweddoli taw dim ond chi sy'n gallu gwneud y penderfyniad. Cawson ni'r holl gefnogaeth yn ystod y rhaglen ond fy newis i pan orffennodd oedd cario 'mlaen. 'Oedd o wir yn mynd i drawsnewid fi am byth.
Llwyddiant y rhaglen
Mae'r arweinwyr ar FFIT Cymru mewn cysylltiad eitha' cyson. Mae gan bawb ei stori. Dw i dal yn cael pobl yn fy stopio i ar y stryd i siarad am y rhaglen. Mae hynny'n beth positif iawn - mae pobl o bob oed yn gwylio'r rhaglen. Mae wedi rhoi cyfleodd i deuluoedd wylio gyda'i gilydd a dysgu rhywbeth.
Mae FFIT Cymru yn rhoi cyfle i rywun i weld y cyfuniad o'r tri pheth - y meddylfryd, y bwyd a'r ymarfer corff - yn llwyddo efo'i gilydd. Dw i ddim yn meddwl bod chi'n gallu gwneud un peth heb ystyried y pethau eraill.
Bydd y rhaglen FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn yn darlledu am 8.00yh ar S4C ar Ragfyr 29 ac ar gael ar 成人快手 iPlayer ar 么l y darllediad.
Ai chi ydi Arweinydd nesaf FFIT Cymru? Gydag ail gyfres yn cychwyn ffilmio yn y flwyddyn newydd, mae posib i CHI ymgeisio i fod yn rhan o gyfres nesa' FFIT Cymru trwy fynd i'r