Galw am addysg iechyd meddwl yn ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Dylai addysg iechyd meddwl fod yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru er mwyn taclo nifer yr hunanladdiadau ymysg dynion, medd elusen Samariaid Cymru.
Mae'r elusen hefyd yn galw am hyfforddiant sylfaenol o ymwybyddiaeth iechyd meddwl i bob athro yng Nghymru.
Bydd ysgolion Lloegr yn darparu addysg iechyd meddwl o 2020, ac fe ddywedodd Samariaid Cymru y dylai Cymru fabwysiadu'r un drefn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi lansio cwricwlwm sy'n ymroddedig i les meddwl.
Galw am 'ymyrraeth gynnar'
Yn 2017 fe wnaeth 360 o bobl yng Nghymru ladd eu hunain. Mae hynny tua thair gwaith y nifer a laddwyd mewn damweiniau ffyrdd.
Roedd 77% o'r rheiny'n ddynion, sy'n golygu bod y gyfradd o hunanladdiadau ymysg dynion bellach deirgwaith yn uwch na'r gyfradd i fenywod.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos mai dynion rhwng 40 a 44 oed sydd 芒'r gyfradd hunanladdiad uchaf yng Nghymru, ac mae'r raddfa dwy neu dair gwaith yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd Sarah Stone, cyfarwyddwr Samariaid Cymru, bod modd taclo hunanladdiadau ymysg dynion yn yr ysgolion.
"Rhaid i ni arfogi bechgyn a dynion ifanc gyda'r gwytnwch a'r sgiliau i reoli eu hiechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel y gallan nhw wynebu'r dyfodol gydag optimistiaeth," meddai.
"Ymyrraeth gynnar ddylai fod yn sail i atal hunanladdiadau yn effeithiol fel y gallwn ni leihau nifer y bobl sy'n cyrraedd pwynt o argyfwng ar ben draw'r daith."
Wrth alw am hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl sylfaenol fel rhan o hyfforddi athrawon, ychwanegodd Ms Stone: "Fel sefydliad rydym yn croesawu cynnwys addysg iechyd meddwl statudol yn Lloegr.
"Rydym yn credu ei bod yn hanfodol i ni gael hyn yng Nghymru hefyd."
'Rheoli iechyd meddwl'
Yn ystod ei arddegau fe wnaeth James Downs - sydd bellach yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt - ddatblygu OCD, iselder ac anhwylder bwyta.
Roedd yn cadw draw o'i ysgol yng Nghymru, ac fe aeth yn gynyddol unig.
"Rwy'n tybio nad oedd fy athrawon yn pryderu fy mod yn absennol oherwydd roeddwn i'n cael y graddau uchaf beth bynnag," meddai.
"Ynghyd 芒 dysgu mathemateg, gwyddoniaeth a Shakespeare, fe ddylai fod lle i ddysgu am wytnwch yn wyneb yr heriau y mae bywyd yn taflu at bob un ohonom ni, ac yn bwysicach sut i reoli iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol.
"Nid yw'n adlewyrchu'n dda ar ein system addysg os oes yna bobl fel fi sy'n gallu gadael yr ysgol gyda graddau a CV da, ond heb y sgiliau i ymdopi gydag elfennau syml bywyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi buddsoddi 拢1.4m i redeg cynllun peilot fel CAHMS sy'n cyflwyno ymarferydd iechyd meddwl mewn ysgolion i gefnogi athrawon a disgyblion wrth ymdopi gyda phroblemau iechyd meddwl.
"Drwy'r prosiectau yma, rydym yn gobeithio datblygu diwylliant mewn ysgolion sy'n dderbyniol i broblemau iechyd meddwl, er mwyn canfod unrhyw bryderon yn gynnar a sicrhau fod disgyblion Cymru yn derbyn y gefnogaeth maen nhw ei angen."
Os ydych chi'n cael trafferthion gyda materion yn y stori yma, gallwch ffonio'r Samariaid ar eu llinell ff么n iaith Gymraeg ar 0808 164 0123.
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth ar wefan arbennig 成人快手 Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018