Dyfodol 'cyffrous' i ddisgyblion ysgol ym Machynlleth
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i adeiladu campws ysgol newydd ym Mhowys wedi eu rhyddhau'n gyhoeddus, gyda'r pennaeth yn dweud bod y dyfodol yn un "cyffrous iawn".
Bydd ysgol newydd yn cael ei adeiladu i blant 4-18 oed ym Machynlleth gerllaw safle Ysgol Bro Hyddgen yn y dref.
Mae 拢23m wedi'i fuddsoddi yn y prosiect, gyda disgwyl i'r ysgol newydd agor yn 2020.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Bro Hyddgen, Dafydd Jones: "'Da ni wedi bod yn trio cael campws newydd ers 2006.
"Erbyn hyn mae'r cynlluniau yn eu lle ac mae'n beth cyffrous iawn.
"Mae ganddo ni gr诺p o athrawon ffantastig yma ac mae'r plant yn arbennig iawn ac mewn dwy flynedd mi fydd ganddo ni adeilad gwerth chweil."
Dan y cynlluniau, y bwriad yw dymchwel yr adeilad presennol ac ail-ddatblygu'r safle er mwyn creu ysgol pob oed newydd sbon i 620 o ddisgyblion, gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar.
Ychwanegodd Mr Jones fod cael ysgol gydol oes yn "golygu bod ni'n gallu sicrhau addysg yn Nyffryn Dyfi".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018