成人快手

Ateb y Galw: Yr actores Catherine Ayers

  • Cyhoeddwyd
Catherine AyersFfynhonnell y llun, Catherine Ayers

Yr actores Catherine Ayers sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Gwion Tegid yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae'n anodd gwahaniaethu rhwng atgof o ddigwyddiad neu atgof o rhywun yn gweud wrthoch chi am rwbeth ddigwyddodd! A ma' nghof i yn OFNADW!

Ond ma' un digwyddiad yn dod i gof o'r tro cynta 'nath Mam fynd 芒 fi i'r meithrin... dwi'n cofio llefen y glaw a chal fy rhoi ar drampol卯n bach wrth ymyl ffenest, a phob tro o'n i'n bownso lan o'n i'n gweld Mam yn pellhau mwy a mwy oddi wrthai a finne'n ffili 'neud dim ond cadw bownso! Ma' 'da fi atgasedd at drampol卯ns ers hynny!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

O'n i'n ffan MAWR o Neighbours, felly odd y crush yn amrywio o w'thnos i w'thnos rhwng Jason Donavon, Guy Pierce a Craig McLachlan. Ac o'n i hefyd yn dwli ar d卯m p锚l-droed Tottenham Hotspur... felly o'dd Gary Lineker yn flavour of the month weithe 'fyd!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tybed oedd Catherine yn falch fod Leicester City wedi ennill yr Uwch Gynghrair yn 2016, gan fod Gary Lineker wedi addo cyflwyno 'Match of the Day' yn ei dr么ns?!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Clyweliad ar gyfer Mamma Mia ar lwyfan y West End. Ma' pawb sy'n 'nabod i yn gwbod nad ydw i yn ddawnswraig ddawnus iawn, felly roedd gorfod dysgu routine cymhleth a'i pherfformio o flaen mawrion y diwydiant yn HUNLLEF!

Roedd pawb arall yno mewn legins a leg warmers yn edrych yn broffesiynol a finne mewn skinny jeans tynn a ugg boots a methu'n llwyr 芒 chofio DIM ac o leia' curiad tu 么l pawb! O'n i am i'r llawr agor lan a'm bwyta a gweiddi..."FI'N GWBOD BO' FI'N RYBISH!" (Nes i ddim ca'l y rhan!)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Rhyfedd fel ma'r rhod yn troi... nes i lefen wythnos dwetha wrth adel Albi, fy mab lleia', yn y Cylch Meithrin am y tro cynta'... Do'dd dim trampol卯n yn agos, serch hynny!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Tase 'ng诺r i, Ashley, yn ateb y cwestiwn yma, dwi'n si诺r bydde rhestr hirfaith! Arfer drwg gwaethaf? Dwi'n clean freak ac yn casau mess! Felly dwi'n gallu bod yn bach o nag ar Ashley a'r plant!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Abergwili... gytre. Y lle dwi'n gallu dianc o bopeth, yn 么l i freichie saff Mam a Dad.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ma' 'na sawl noson dda wedi bod... rhai na ddylid s么n amdanynt byth!

Ond o ddifri, y noson orau oedd d锚t cynta' fi gydag Ashley. Do'dd dim byd arbennig am be' 'nelon ni (diod a sgwrs lyfli yn y dafarn leol) ond mae'n noson arbennig oherwydd o'r eiliad honno, newidodd popeth. Ac yn sgil y noson honno, etifeddes i ddau fab gorjys a rhai blynyddoedd wedyn, dda'th Albi i'r byd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penderfynol. Creadigol. Ffyddlon.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Llyfr Dolly Alderton, Everything I Know About Love. Dim ond yn ddiweddar nes i ddarllen y llyfr yma ac o'n i wrth fy modd 芒 hi. Dyma lyfr 'sen i 'di lico sgwennu fy hunan. O'dd hi'n rili siarad 'da menywod fy nghenedlaeth i, ac yn gwneud synnwyr o lot o bethe.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Judi Dench - yn syml, er mwyn gofyn iddi shwt ma' hi mor AMAZING!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pam fod Judi Dench mor anhygoel? Pwy a 诺yr...

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n llyfr agored rili, fel do's dim lot sy'n gyfrinach amdana' i.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Teulio'r diwrnod yng nghwmni teulu a ffrindie - parti mawr gyda digon o fwyd, gwin a jin!

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Thinking Out Loud, Ed Sheeran. Hon odd c芒n ein dawns gynta' yn ein priodas felly mae'n dod 芒 holl atgofion y diwrnod arbennig hwnnw yn 么l.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Scallops a chorizo. Rhannu pizza a pasta o Caf茅 Citta 'da Ashley. Sticky toffee pudding a chwstard (dim rhannu!).

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Albi! Ma' pawb yn dwli arno fe ac yn 'neud popeth iddo fe. Ac ma' fe'n cal nap o ddwy awr bob prynhawn... be' sydd ddim i lico?!

Ffynhonnell y llun, Catherine Ayers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Catherine yn nghanol criw o fechgyn yn y t欧 bellach!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Sh芒n Cothi