Pennaeth: Angen sgwrs 'diflewyn ar dafod' am y dyfodol

Dyw beirniadaeth o Lywodraeth Cymru ddim mor gadarn ac y gallai fod oherwydd bod gymaint o sefydliadau a phobl yn ddibynnol arni am gefnogaeth ariannol, yn 么l y dyn sy'n cynrychioli cynghorau Cymru.

Dywedodd Steve Thomas, sydd ar fin gadael ei swydd fel Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mai nawr yw'r amser i gael "trafodaeth diflewyn ar dafod" am ddyfodol y genedl.

"Yn nhermau'r gymdeithas sifil mae rhannau helaeth o Gymru yn ddibynnol ar Lywodraeth Cymru," meddai.

"Mae hynny yn golygu bod pobl yn gyndyn o fod yn feirniadol."

Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod yn "croesawu trafodaeth ystyrlon".

Dywedodd wrth 成人快手 Cymru fod yr etholiad ar gyfer dewis prif weinidog newydd yn gyfle am "drafodaeth go iawn ar 么l blynyddoedd o dawelwch".

"Rwy'n credu mai nawr yw'r amser i godi llais. Mae'n amser i gael trafodaethau cyhoeddus huawdl ledled Cymru am y dyfodol."

Mewn araith ffarwel gafodd ei thraddodi yn y Cynulliad, dywedodd hefyd nad oedd "dim hysbyseb gwaeth ar gyfer democratiaeth" nag ACau yn gweithio ar eu cyfrifiaduron yn siambr y senedd yn ystod trafodaethau.

"Pa fath o neges mae hynny yn ei gyfleu?" gofynnodd.

Disgrifiad o'r llun, Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi argymell lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i wyth neu naw

Yn ei araith, oedd yn trin sawl pwnc, trodd at ymdrechion diweddar i geisio uno cynghorau lleo

Dywedodd y dylai cynghorau gael statws cyfreithiol i fodoli, fel nad oedd modd eu dileu heb eu caniat芒d.

Ychwanegodd fod y berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi suro oherwydd y drafodaeth ar uno cynghorau.

Ar hyn o bryd mae'n dweud bod hawl gan wleidyddion ym Mae Caerdydd i gael gwared ar bob un o'r cynghorau lleol yng Nghymru.

"Rwy'n credu bod yn rhaid i ni warchod a meithrin democratiaeth yma yng Nghymru."

Dywedodd ei fod yn hurt i feddwl y byddai canoli gwasanaethau yng Nghaerdydd yn datrys pob problem.

Fe wnaeth hefyd gyfeirio at y broses o uno sefydliadau mewn meysydd eraill - bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a Chyfoeth Naturiol Cymru - fel esiamplau lle'r oedd "canoli wedi methu a sicrhau gwasanaethau gwell".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n croesawu archwiliad a thrafodaeth ystyrlon, ac yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ein gwaith yn dryloyw, yn hygyrch ac yn gyson."