成人快手

'Ail Gymro' mewn llun enwog o frwydr Rhyfel Byd Cyntaf

  • Cyhoeddwyd
milwyr YpresFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae William Henry Ensor a Robert Winston i'w gweld yng nghefn y llun eiconig o frwydr Passchendaele yn 1917

Mae hi'n ymddangos bod o leia' dau Gymro yn rhan o lun enwog a dynnwyd yng nghanol brwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y llun ei dynnu yn Boezinge ar 1 Awst 1917 ger Cefn Pilckem yn Fflandrys, ddiwrnod yn unig ar 么l i'r Prifardd Hedd Wyn gael ei ladd gerllaw.

Roedd Kathryn Robyns o Benygroes ger Caernarfon, wedi dweud bod ei thaid, William Henry Ensor o Falltraeth, Ynys M么n, yn un o'r milwyr oedd yn cludo'r clwyfedig o Faes y Gad.

Nawr, mae Cymraes arall yn dweud bod un o'i pherthnasau hi hefyd yn yr un llun.

Disgrifiad,

Norma Winston Jones: "Do'dd tad-cu ddim ishe siarad am y Rhyfel"

Yn 么l Norma Winston Jones o Drefach Felindre ger Castellnewydd Emlyn, fe ddywedodd ei thad-cu Robert Winston mai ef oedd un o'r dynion yng nghefn y llun.

Cyn yr wythnos diwethaf roedd yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd yn gwybod pwy oedd dau o'r milwyr oedd i'w gweld - a bellach mae'n ymddangos bod modd ychwanegu enw'r ddau Gymro atyn nhw.

Yn 么l ei wyres fodd bynnag, doedd Robert Winston ddim yn hoff o drafod ei brofiadau yn ystod y Rhyfel Mawr.

"Roedd yn aelod o'r Royal Army Medical Corps. Ro'dd llun gyda fe yn y t欧... y llun sydd yn enwog dros ben. Fe ddywedodd wrtha i ei fod yng nghefn y llun," meddai Norma Winston Jones.

"Mae e wedi hala ias oer drwydda i... falle bod y cwbl lot yn Gymry. Falle bod e wedi cario Hedd Wyn. Pwy sydd i wybod? Rwy'n teimlo'n browd iawn ohono fe."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Robert Winston, ar chwith y llun, gyda Norma ar y blaen

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y medalau a gafodd Robert Winston yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Fe wnaeth Robert Winston, oedd yn dod o Abertawe, oroesi'r rhyfel a bu farw yn 1973 yn 80 oed.

Nid Norma Winston Jones oedd yr unig berson i gael ei hysbrydoli i rannu stori bersonol ar 么l clywed Kathryn Robyns yn rhannu hanes ei thaid ar raglen y Post Cyntaf ar 7 Tachwedd.

Un arall wnaeth ymateb i'r sgwrs honno oedd Eluned Rowlands o Benygroes ger Caernarfon - a hynny am fod hen ewythr iddi, Gruff Jones, hefyd wedi gwasanaethu gydag William Henry Ensor.