Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am ailgodi pont reilffordd yn Llangefni
Mae cynghorwyr lleol yn Llangefni wedi dweud y dylid ailadeiladu pont reilffordd yn y dref yn dilyn damwain yno ddydd Gwener.
Cafodd y bont ei ddymchwel yn dilyn damwain 芒 lori. Mae ofnau yn lleol y gallai'r digwyddiad beryglu cynllun i ailagor gorsaf drenau Llangefni a'r lein ar draws Ynys M么n.
Dywedodd y cynghorydd Dylan Rees wrth raglen y post Cyntaf ar 成人快手 Radio Cymru: "Er mwyn adfywio Llangefni mae ailagor yr orsaf a'r lein yn allweddol.
"Y perygl r诺an ydi os ydi'r bont wedi mynd a ddim yn cael ei hailadeiladu, fydd y cynlluniau yma ddim yn cael eu hystyried.
"Mae angen herio Network Rail i ailgodi'r bont."
Yn 么l llefarydd ar ran Network Rail mae'r cwmni yn edrych ar opsiynau yn ymwneud ag adnewyddu'r bont.
"Dyw'r rheilffordd dim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, ond oherwydd y difrod sylweddol mae ein peirianwyr wedi tynnu'r bont er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr i ffordd a cherddwyr.
"Rydym yn edrych ar yr opsiynau posib ar hyn o bryd o ran oes modd gosod strwythur arall yno.
"Byddwn yn diweddaru pobl yr ardal yngl欧n 芒'r camau nesaf."