Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth yn ffafrio codi pont newydd dros Afon Menai
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa opsiwn maen nhw'n ei ffafrio ar gyfer trydydd llwybr ar draws Afon Menai.
Byddai'r llwybr porffor yn golygu pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia, a gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.
Roedd dan ystyriaeth fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus i'r posibilrwydd o greu trydydd llwybr.
Pe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen y gobaith gwreiddiol oedd dechrau ar y gwaith adeiladu erbyn diwedd 2020.
Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi teithio i Ynys M么n er mwyn gwneud y cyhoeddiad ddydd Iau.
Dywedodd y byddai'r cynllun yn cynnwys cyfleusterau ychwanegol ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Yn 么l Llywodraeth Cymru yr opsiwn porffor oedd yr un mwyaf poblogaidd o'r ymgynghoriad cyhoeddus, gyda 25% yn ei ffafrio.
Roedd gwerthusiad gan arbenigwyr hefyd yn dweud mai'r opsiwn porffor oedd yn cynnig y manteision economaidd gorau, ac yn rhoi gwerth am arian "uchel".
'Wrth fy modd'
Dywedodd Mr Jones fod yr A55 yn bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
"Dyma'r ffordd bwysicaf yn economaidd i ogledd Cymru, ac mae'n cysylltu'r rhanbarth gyda gweddill Cymru, y DU ac Ewrop," meddai.
"Pont Britannia yw'r unig ran o'r ffordd sy'n l么n gerbydau sengl, ac rwy'n gwybod fod hyn yn arwain at dagfeydd yn ystod oriau brig yn y tymor gwyliau.
"Mae achos cryf iawn dros gynyddu'r capasiti ar draws y Fenai, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael 芒'r mater hwn."
Ychwanegodd Mr Jones y byddai'r bont hefyd yn gwella amseroedd teithio.
"Bydd hefyd yn rhoi manteision economaidd ac yn sicrhau bod y ffordd yn addas at y diben gan bod disgwyl i'r traffig gynyddu dros y blynyddoedd nesaf."
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i roi 拢3m ar gyfer gwaith dylunio a datblygu trydedd bont fel rhan o'r gyllideb ddwy flynedd a gafodd gefnogaeth gan Blaid Cymru.
Y pedwar opsiwn dan ystyriaeth oedd:
- Opsiwn Coch: Pont newydd yn union i'r gorllewin o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A ar yr A55;
- Opsiwn Pinc: Estyniad i Bont Britannia / pont newydd yn union i'r dwyrain o'r bont bresennol i ddarparu lonydd ychwanegol ar gyfer traffig a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55;
- Opsiwn Oren: Pont newydd yn union i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55;
- Opsiwn Porffor: Pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.