Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Perthynas y Cymry ag alcohol
Mae cyfres newydd ar Radio Cymru yn twrio i ddyfnder y seici Cymreig i geisio mynd i wraidd perthynas y Cymry efo alcohol.
O Dylan Thomas i Richard Burton, mae'r ddelwedd o'r Cymro creadigol, talentog, angerddol sy'n dinistrio ei hun drwy'r ddiod wedi dod yn symbol o ramant a thrasiedi'r Celt Cymreig.
Un o gerddi enwocaf Dafydd ap Gwilym, sy'n cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf Cymru ac Ewrop yn ei gyfnod, oedd Trafferth Mewn Tafarn - cerdd o'r 14eg ganrif am helyntion y bardd yn ceisio cwrdd 芒 merch ar 么l bod yn yfed.
Yn y rhaglen Sychedig Walia, mae'r cyflwynydd Llion Williams yn mynd 芒 ni n么l ymhellach na hynny ac yn holi a ydy'r berthynas yma yn y gwaed?
"Ers dyddiau'r Gododdin," meddai Llion Williams, "mae'r ddiod gadarn wedi bod yn rhan annatod o'n hanes a'n diwylliant ni."
Mae cerdd y Gododdin yn s么n sut y collodd y Brythoniaid - y Cymry cynnar - frwydr Catraeth yn y 6ed ganrif ar 么l bod yn yfed y noson gynt. Mae'n un o'r cerddi cynharaf yn y Gymraeg.
Yn 么l yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd mae gwraidd y peth yn y ffaith fod gan y Cymry "berthynas anghyfforddus efo ni'n hunain".
"Dwi'n meddwl ein bod ni wastad yn clywed fod ein hiaith ni yn hen sgragan o hen iaith, yn swnio fel bref geifr ar y mynyddoedd, a sawl math o ddisgrifiad arall; dydi'n diwylliant ni ddim werth taten - mae hynny'n cael ei ddrymio i fewn i ni," meddai.
"Felly rydyn ni'n teimlo'n isel am bwy ydyn ni, yr iaith rydyn ni'n ei siarad, ein diwylliant ni a'n gwleidyddiaeth ni.
"Mae wedi cael ei brofi wrth gwrs fod peint neu ddau yn rhoi rhyw fath o hyder, sgwario, tafod yn fwy ffraeth, ein gwneud ni'n fwy hyderus ac yn fwy cymdeithasol."
Mae hyn i'w weld mewn gwledydd Celtaidd eraill meddai Myrddin ap Dafydd a hefyd mewn pobl frodorol ar gyfandiroedd eraill fel brodorion America, yr Aborigini yn Awstralia a'r M膩ori yn Seland Newydd meddai.
"Dwi'n meddwl mai problem taeogrwydd [ydi o], ddim yn gweld ein hunain gystal 芒 phobl eraill - hwnna ydi'n problem ni," meddai.
Mae alcohol wedi dod yn gyfrwng rydyn ni'n ei ddefnyddio fel canllaw meddai Myrddin ap Dafydd, ond mae'n "ganllaw peryglus iawn os ydyn ni'n rhy drwm arno fo," meddai.
Alcohol a 'phlant y Mans'
Yn y 19eg ganrif roedd 'na ddiwygiad crefyddol yng Nghymru a'r mudiad dirwest yn annog pobl i ymatal rhag yfed.
I nifer o blant gweinidogion, fel Llion Williams, roedd hyn yn creu cymhlethdod arall efo alcohol.
"Am ambell reswm personol, dydi'n perthynas ni fel cenedl ag alcohol ddim yn gorwedd yn gyfforddus rhywsut ac mae 'na waith tyrchu ymhellach i pam mae hynny," meddai.
Mae'n trafod gydag un arall o 'blant y Mans' (sef yr enw ar gartref gwenidogion), y cerddor Sioned Webb.
"Doedd diwylliant y dafarn ddim yn rhan o'r fagwraeth o gwbl," meddai Sioned Webb.
"Doedd diwylliant diota ddim wedi dod i fewn nes fues i'n mynd i'r steddfodau pan o'n i tua 15 neu 16 oed ac oedd blasu diod am y tro cyntaf yn antur anferth.
"Roedd disgwyl i ni gadw wyneb a pheidio gwneud ffyliaid o'n hunain achos dyna oedd y peth mawr - colli urddas a cholli gwyneb."
Ond roedd yna awydd i wrthryfela a "thrio'r gwaharddedig" meddai.
Wrth siarad 芒 Sioned Webb mae Llion Williams yn cyfeirio at farwolaeth ei frawd, y bardd Iwan Llwyd, a fu farw'n 52 oed yn 2010.
"Er ein bod ni wedi cael magwraeth llawn cariad," meddai "...dwi yn teimlo weithiau 'tybed os fyse fo 'di bod yn fagwraeth ychydig mwy rhyddfrydol fysa fo 'di bod yn iachach.
"Fysa mrawd yn dal efo ni o ganlyniad i fagwraeth mwy rhyddfrydol?"
Mae Sioned Webb yn awgrymu bod yna deimlad anelwig o euogrwydd ymhlith plant y Mans.
"Yr euogrwydd yma... mae rhai o blant y Mans yn ei deimlo - am be' dwi ddim yn gwybod," meddai.
"Oherwydd efallai ein bod ni wedi clywed am bechod, ac am fod yn llwch y llawr, a'r emynau yma oedd mor gyfarwydd inni Sul ar 么l Sul?"
Un arall o'r cyfranwyr ar y rhaglen yw'r gweinidog Alun Tudur a'r cyn-weinidog Sion Aled Owen a fu'n gweithio yn Awstralia.
Mae yntau hefyd yn gweld tebygrwydd rhwng profiad y Cymry a brodorion Aboriginaidd lle mae'n dweud fod alcohol "wedi cael ei ddefnyddio fel ffordd o gadw pobl yn hapus mewn ffordd arwynebol. Bod o'n sicrhau bod nhw ddim mewn cyflwr i wrthryfela na gwrthwynebu grym."
Bydd y gyfres hefyd yn trafod Dirwest a sawl agwedd arall ar alcohol.
Gwrandewch ar Sychedig Walia ar 成人快手 Radio Cymru am 12.30 Dydd Llun