成人快手

Ateb y Galw: Yr actor Rhodri Meilir

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Meilir

Yr actor Rhodri Meilir sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Ll欧r Evans yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cuddio yng nghanol ffr芒m ddringo siap sgw芒r i osgoi'r athrawon oedd eisiau paentio gwaelod fy nhraed er mwyn i mi redeg ar draws darn mawr o bapur gwyn tra yn y meithrin yn Sir Efrog. Nid y man gorau i guddio ond fi oedd yn fuddugol bryd hynny.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roedd fy chwaer yn hoff o wylio Neighbours, a minnau hefyd yn hoff o wylio Neighbours pan oedd Beth Brennan (Natalie Imbruglia) yn ymddangos...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ceisio canu mewn clyweliad ar gyfer cynhyrchiad Theatr Clwyd o Great Expectations pan yn 14 a'n llais rhywle rhwng bod yn llanc, yn ddyn ifanc neu'n froga.

Edrychodd y cyfeilydd arna i fel taswn i newydd ladd ei hoff gi. Ches i mo'r rhan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ffodus, mae Rhodri wedi profi llwyddiant ers y profiad hwnnw pan oedd yn 14 oed... Eleni, mae wedi cael ei enwebu am wobr BAFTA Cymru am yr actor gorau am ei bortread o Dylan Harris yn Craith

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Cefais ychydig o drafferth gyda'm llygaid yn ddiweddar a bu rhaid i mi fynd i'r ysbyty i gael rhywfaint o brofion. Maent bellach yn holliach ond dw i'n mawr obeithio na fydd rhaid i mi gael cotton bud pigog yn procio a chrafu gwaelod fy llygaid byth eto.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Yn aml, mi fydda i'n cofio'n sydyn fy mod wedi anghofio'n llwyr i ateb e-bost.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Yn ddiweddar, buom fel teulu'n aros mewn carafan statig ym Mwnt. Aethom i lawr i'r traeth bob diwrnod gan weld morloi a dolffiniaid a dim ond un bore o law gawsom ni. Paradwys perffaith a chystal ag unrhyw wyliau tramor.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn y bore bach y ganwyd ein merched ond cafodd y mab ei eni'n hwyr y nos.

Fodd bynnag, anghofia i fyth dawnsio'n hanner noeth o gwmpas y gegin ar 么l i Gymru golli yn erbyn Bosnia ym mis Hydref 2015. (Roedd buddugoliaeth Cyprus dros Israel yr un noson yn golygu fod Cymru wedi gwneud digon i gyrraedd ei phencampwriaeth p锚l-droed rhyngwladol cyntaf er 1958.)

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd 'na lawer o ddathlu wrth glywed am fuddugoliaeth Cyprus, er gwaetha'r golled yn erbyn Bosnia

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Semi professional loner.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dw i wedi bod 芒 diddordeb yn y byd animeiddio ers yn ddim o beth ac hefyd yn ffan mawr o ffilmiau Wes Anderson, felly mae Fantastic Mr. Fox (a'r ffilm diweddar Isle of Dogs) yn ticio pob un o fy mocsys.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Neville Southall, Ruud Gullit, Diego Maradona a Gary Speed.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ges i piercing botwm bol pan yn ddeunaw ond ges i lond bol ohono fo ar 么l tri mis.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dyfeisio peiriant amser.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Mae hi'n newid yn ddyddiol ac yn dibynnu sut hwyl sydd arna i. Ar y funud, dw i'n ei chael hi'n anodd peidio gwrando ar Architecture of Amnesia gan Gruff Rhys a dw i wrth fy modd yn cydganu fersiwn Peter, Paul and Mary o Freight Train gyda'm mhlant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er teitl y g芒n, mae Rhodri yn cofio ei fod o'n hoffi c芒n Gruff Rhys

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawn cocktail syml yr 80au, stecen sydd prin wedi gweld lliw y badell ffrio (efo chips fy Mam) a tiramisu rhad (dim o lol Jamie Oliver efo'i ffrwythau os gwelwch yn dda).

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Gareth Bale. Ar 么l chwarae g锚m i Gymru, fyswn i'n gyrru'n syth i Goodison Park ac yn arwyddo cytundeb hir-dymor i Everton. Mwahaha.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rhydian Dafydd (The Joy Formidable)