Codiad cyflog i feddygon a deintyddion yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, bod y cytundeb newydd yn "risg" i gyllid y GIG yng Nghymru yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd i gyflogau meddygon a deintyddion yng Nghymru.

Yn 么l y llywodraeth, bydd 2% o gynnydd sylfaenol i feddygon a deintyddion sy'n derbyn cyflog, i ymarferwyr meddygol a deintyddol cyffredinol sy'n derbyn cyflog a'r rhai sy'n gontractwyr annibynnol.

Bydd y cynnydd, sy'n fwy hael na'r un yn Lloegr yn 么l Llywodraeth Cymru, yn cael ei 么l-ddyddio i 1 Ebrill 2018.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi croesawu'r cyhoeddiad.

'Mynd yn bellach na'r cytundeb dros y ffin'

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, bod y llywodraeth wedi cytuno'n llawn ar argymhellion y Corff Adolygu T芒l Meddygon a Deintyddion, sy'n banel annibynnol.

Ond cyfaddefodd bod hynny'n "risg o ran cyllido GIG Cymru yn y dyfodol".

Mae'r cytundeb newydd yn golygu 2% arall yn ychwanegol i ymarferwyr meddygol cyffredinol sy'n gontractwyr annibynnol, i ymarferwyr meddygol cyffredinol sy'n derbyn cyflog ac i grant hyfforddwyr ymarferwyr meddygol cyffredinol a chyfradd arfarnwyr ymarferwyr meddygol cyffredinol.

Bydd 1.5% yn ychwanegol hefyd i feddygon arbenigol a chyswllt (SAS).

Dadansoddiad Owain Clarke, gohebydd iechyd 成人快手 Cymru

Dyw hi ddim yn gyfrinach fod prinder meddygon yn broblem fawr mewn rhai mannau, gyda meddygfeydd lleol yn cau neu'n cael eu trosglwyddo i ofal byrddau iechyd.

'Y ni'n gwybod hefyd fod rhai byrddau iechyd yn gorfod talu crocbris i dalu staff dros dro i gynnal rhai gwasanaethau ysbyty.

Gobaith Vaughan Gething yw y bydd y cynnig yn annog rhagor o feddygon i ddod neu aros yng Nghymru.

Ond mae'n risg.

Mae gwario mwy ar gyflogau wrth gwrs yn golygu gwario arian allai fod wedi cael ei fuddsoddi mewn meysydd eraill.

Ac o fod yn fwy hael na Lloegr mae'n golygu fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i'r arian ychwanegol o'i chyllideb ei hun.

Dywedodd y llywodraeth bod y cytundeb newydd yn "cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion sy'n gweithio'n galed, a'u cyfraniad allweddol i'r GIG yng Nghymru".

"Mae'r cytundeb hwn yn mynd ymhellach na'r hyn y cytunwyd arno ar gyfer meddygon a deintyddion dros y ffin, ac mae'n dangos eto pam y mae Cymru'n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo."

Wrth gyhoeddi'r cytundeb newydd, dywedodd Mr Gething: "Yn dilyn blynyddoedd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol i fodloni argymhellion y Corff Adolygu.

"Y gwir amdani o hyd, fodd bynnag, yw bod ein cyllidebau'n gyfyngedig, felly mae diwallu cytundeb cyflogau sy'n deillio o godi cap cyflogau Llywodraeth y DU heb gyllid priodol yn ei sgil yn golygu bod risg o ran cyllido GIG Cymru yn y dyfodol."

Cyhoeddiad 'hir-ddisgwyliedig'

Yn ymateb fe ddywedodd Dr David Bailey, cadeirydd y prif gorff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru (BMA), eu bod yn "bl锚s" gyda'r cyhoeddiad.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Angela Burns AC, bod ei phlaid yn croesawu'r cynnydd i gyflogau, oedd yn bosib "oherwydd ymrwymiad Llywodraeth Geidwadol y DU i'r Gwasanaeth Iechyd".

Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru "egluro'n union" sut mae'r cynnig yn well nag yn Lloegr, a dywedodd hefyd bod y cyhoeddiad yn "hir-ddisgwyliedig".