成人快手

Pryder elusennau am gronfa newydd i helpu'r digartref

  • Cyhoeddwyd
DigartefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynghorau Cymru yn galw i'r cyhoedd roi arian i ymgyrchoedd ac nid yn uniongyrchol i bobl ddigartref

Mae'n bosib nad yw arian sy'n cael ei gasglu gan gynghorau i bobl ddigartref fod yn cyrraedd y rhai sydd ei angen, yn 么l elusennau.

Mae ymgyrchoedd yn cael eu rhedeg gan sawl cyngor yn annog y cyhoedd i roi iddyn nhw yn hytrach na rhoi yn uniongyrchol i bobl ar y stryd.

Dywedodd Shelter Cymru a Crisis ei fod yn anodd i bobl ddigartref gael mynediad i'r arian sy'n cael ei gasglu gan y cyngorau.

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y diweddaraf i lansio ymgyrch o'r fath, ei fod yn anelu at ddiwallu anghenion hirdymor pobl ddigartref.

Mae cynghorau Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn gweithredu cynlluniau sy'n galluogi pobl i wneud taliad tuag at gymdeithasau digartrefedd, gan gynnwys taliadau drwy gerdyn.

I gael cymorth, mae'n rhaid i bobl ddigartref wneud cais yn esbonio pam eu bod angen arian, yn 么l yr elusennau.

Dywedodd cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, bod gan gynghorau'r "bwriad gorau" ond bod "pryder am yr effeithiau negyddol posib".

"Gallai'r arian sy'n cael ei wario ar y cynlluniau yma gael ei ddefnyddio'n well i daclo rhai o'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael cymorth.

"Dylwn ni fod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu cartrefi parhaol a'r gefnogaeth i gyd-fynd 芒 hynny."

Pawb ddim yn begera

Ychwanegodd Karen Grunhut o Crisis: "Nid yw pob person digartref yn begera ac nid yw pob person sy'n begera yn ddigartref, ac nid yw peth o'r iaith sy'n cael ei ddefnyddio yn y cynlluniau yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cael opsiynau i bobl allu helpu pobl ddigartref yn rhywbeth i'w gefnogi.

Mae rheolwr diogelwch cymunedol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Sian Morris, yn dweud bod eu cynllun yn mynd law yn llaw gyda gwaith arall yr awdurdod.

"Un o'r prif resymau nad yw pobl ar y stryd yn ymwneud [gyda'r system] yw am eu bod methu a chadw apwyntiadau neu am eu bod ofn llenwi ffurflenni.

"Dwi'n meddwl bod angen i ni dderbyn bod wastad pobl sydd ddim am dderbyn cymorth, yn yr un modd 芒 phobl sy'n dewis bod yn ddigartref fel ffordd o fyw.

"Nid yw hynny'n golygu ein bod ni'n rhoi'r gorau i geisio helpu.

"Os ydych chi'n rhoi arian i rywun sy'n begera ar y stryd gall hynny eu helpu am ddiwrnod, rydyn ni'n gobeithio bydd yr arian o'r cynllun yn helpu i gyrraedd eu hanghenion am weddill eu bywydau."