Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair y Brifwyl
Gruffudd Eifion Owen sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Yn wreiddiol o Bwllheli, mae'n gweithio i'r 成人快手 fel un o olygyddion y gyfres sebon 'Pobol y Cwm' a hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu am y Gadair.
Cafodd y Gadair ei chynnig am awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau o dan y teitl 'Porth', a'r beirniaid oedd Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.
Mae Gruffydd, sy'n 32 oed, hefyd yn derbyn gwobr ariannol gan Gaynor a John Walter Jones er cof am eu merch Beca.
Yn dilyn y seremoni fe ddywedodd wrth Cymru Fyw: "Ers pan weles i'r gadair, o'n i'n meddwl ei bod hi'n aruthrol o hardd, ac y byddai pwy bynnag oedd am gael eistedd ynddi yn mynd i fod yn lwcus iawn. Dwi'n hynod falch mai fi sy'n cael mynd adra 'efo hi!
"Rhan o'r rheswm nes i benderfynu trio am y gadair eleni oedd am fod gen i gymaint o barch at y tri beirniad. Mae cael eu canmoliaeth nhw yn golygu andros o lot, a'r ffaith bod 'na ddwy awdl gref iawn - bod rhywun arall yn agos at y brig - yn arbennig."
Ychwanegodd: "Mae'r awdl yn trafod rhywfaint ar y g么l bwysig honno gan Hal Robson-Kanu, ac fel mae plant ysgol yn dewis eu hoff b锚l-droediwr, o'n i'n meddwl y byswn i yn gwneud yr un fath".
Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Ceri Wyn Jones: "Porth oedd y testun ac ymhlith pyrth y gystadleueth, ro'dd porth y caethweision yn Nghalab芒r, porth Brexit yng Nghaernarfon, porth bae Caerdydd, porth castell Caerdydd, a'r porth i'r byd digidol. A chwpwl o byrth nad ydw i - na Rhys nac Emyr y Graig - hyd at y dydd heddiw yn gallach beth y'n nhw, heb s么n am ble maen nhw!"
'Cywrain ac amlhaenog'
Wrth droi at waith 'Hal Robson-Kanu' dywedodd: "Mi aeth yr awdl hon 芒 gwynt y tri ohono' ni - nid am ei bod hi'n goeth a chyfoethog, nid am ei bod hi'n eithriadol o gywrain ac amlhaenog - ond am ei bod hi mor syml o dreiddgar yn y ffordd mae'n ymdrin 芒 phrofiade sydd yn ffordd o fyw i'r genhedleth ddigidol.
"A thrwy wneud hynny, mae'n archwilio'r modd yr y' ni'n dewis byw ein bywyde, ac mae ystyr - neu ddiffyg ystyr - hwnnw wedi bod yn ofid i feirdd ar hyd y cenedlaethe, wrth gwrs.
"Ond o bosib ei gamp fwya yw ei fod wedi gwneud hyn oll mewn ffordd mor ddealladwy, a hynny diolch i arddull lafar garlamus ac amrywieth o gyweirie, lle mae enwe brand a rhegfeydd yn bethe mor naturiol a chyffredin ag yw englynion telynegol iddo.
"Ac am ei fod e'n gynganeddwr mor sionc a greddfol, mae'n gallu taro ergydion cyson gofiadwy a newid ei arddull, heb darfu ar lif ei stori."
Cystadleuaeth agos
Roedd y gystadleuaeth yn agos eithriadol o agos, gydag awdl 'G诺r dienw' hefyd yn haeddu'r Gadair yn 么l Ceri Wyn Jones: "Os yw awdl 'G诺r dienw' yn si诺r o gyffroi'r darllenwyr hynny sy'n ffans o'r awdl eisteddfodol, mae gan awdl 'Hal Robson-Kanu' y potensial i gyffroi darllenwyr na ddarllenodd - neu na gafodd flas ar - yr awdl eisteddfodol erioed.
"Ond nid y pethe hynny drodd y fantol leni. Y gwir yw bod un o'r ddwy awdl eithriadol hyn wedi rhoi mwy o wefr i ni na'r llall.
"Ac ar sail y wefr honno, mae'r tri ohono' ni, yn annibynnol ar ein gilydd ac yn gwbwl gyt没n, wedi penderfynu fod y gadair eleni yn mynd i 'Hal Robson, Hal Robson-Kanu'."
Prifardd a Stompiwr
Bu'r Prifardd newydd yn mynychu gwersi cynganeddu gydag Ifan Prys a'r Prifardd Meirion MacIntyre Huws yn ystod ei arddegau.
Nid dyma'r tro cyntaf iddo dderbyn gwobr ar lwyfan Theatr Donald Gordon, gan iddo ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd yn 2009.
Mae'n stompiwr brwd ac fe enillodd st么l y Siwper Stomp ar lwyfan y Pafiliwn nos Lun, a'r brif wobr yn y Stomp Werin yn Nh欧 Gwerin nos Iau.
Mae'n un o griw Bragdy'r Beirdd ac yn teimlo bod cael cyfle i berfformio ei gerddi yn gyson o flaen cynulleidfaoedd wedi bod o fudd mawr iddo fireinio ei grefft fel bardd.
Mae'n ysgrifennu ar gyfer 'Pobl y Cwm' gyda dau o gyd-enillwyr yr wythnos hon, Catrin Dafydd, enillydd y Goron a Rhydian Gwyn Lewis, a enillodd y Fedal Ddrama ddydd Iau.
Ar hyn o bryd, mae Gruffudd i ffwrdd o'r gwaith yn mwynhau amser gyda'i fab ifanc, Dyfed Arthur, ond bydd yn dychwelyd i'w swydd ymhen y mis.
Mae'n aelod o d卯m ymryson Ll欧n ac Eifionydd ac o d卯m talwrn Y Ffoaduriaid, pencampwyr y gyfres yn 2016.
Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, 'Hel Llus yn y Glaw', yn 2015 gan Barddas, a chyrhaeddodd y gyfrol restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2016.
Mae'n ddiolchgar iawn i'w gyn-athrawon a darlithwyr, ei deulu a'i gyfeillion am eu holl anogaeth, cefnogaeth ac amynedd dros y blynyddoedd, yn arbennig felly i Gwennan, Casia a Ll欧r, ei gyd-Ffoaduriaid.
Wrth noddi'r Gadair i ddathlu pen-blwydd Sain Ffagan yn 70 oed, roedd Amgueddfa Cymru'n awyddus i weld cysylltiad rhwng y dyluniad a'r safle.
Cafodd Chris Williams, sy'n byw yn Pentre, ei ysbrydoli gan ffurf rhai o'r cadeiriau yng nghasgliad yr amgueddfa, ac un yn arbennig a gafodd ei gwneud yn Nhrealaw, nid ymhell o'i weithdy yn Ynyshir.
'Modern a thraddodiadol'
Dywedodd: "Mae'r dyluniad yn fodern gyda chyffyrddiadau traddodiadol, ond eto mae iddi bresenoldeb cadair seremon茂ol, diolch i elfennau megis sedd lydan a throm, breichiau agored a chefn uchel."
Mae gan y Gadair sedd a chefn o bren llwyfen, a choesau a breichiau o bren onnen.
Mae'r sedd a'r cefn wedi'u hengrafu 芒 phatrwm gwl芒n traddodiadol sy'n seiliedig ar garthen yng nghasgliad Sain Ffagan - carthen a wehyddwyd ym Melin Wl芒n Esgair Moel, un o'r adeiladau cyntaf i gael ei ail-godi yn yr Amgueddfa Werin ym 1952.
Fe gafodd nifer o'r darnau eu creu 芒 llaw gan ddefnyddio offer traddodiadol, ond fe ddefnyddwyd peiriant laser i engrafu'r patrwm arni.