Mellt yn ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2018

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gr诺p o Aberystwyth y tlws mewn seremoni arbennig ar Lwyfan y Maes

Mellt sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm Mae'n Haws Pan ti'n Ifanc.

Cafodd y gr诺p o Aberystwyth y tlws mewn seremoni arbennig ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dyma'r pumed tro i'r Eisteddfod gynnig gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Yn ogystal enillodd Gwilym Bowen Rhys wobr Tlws Sbardun, am g芒n wreiddiol ac acwstig ei naws.

Rhestr fer 'hynod eclectig'

Dyma'r albwm cyntaf i Mellt eu rhyddhau ers eu EP, Cysgod Cyfarwydd yn 2014.

Cafodd yr albwm ei recordio gyda'r cynhyrchydd Mei Gwynedd ar label JIGCAL yng Nghaerdydd.

Dywedodd Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn: "Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli.

"Braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel ardderchog, oedd 芒 barn gref am bob un o'r albymau a gyrhaeddodd y rhestr fer."

Mae cyn enillwyr y wobr hon yn cynnwys The Gentle Good, Gwenno Saunders a S诺nami, gyda Bendith yn dod i'r brig y llynedd.

Y deg albwm ar y rhestr fer oedd:

  • Band Pres Llareggub - Llareggub
  • Blodau Gwylltion - Llifo fel Oed
  • Bob Delyn a'r Ebillion - Dal i 'Redig Dipyn Bach
  • Gai Toms - Gwalia
  • Gwyneth Glyn - Tro
  • Mellt - Mae'n Hawdd Pan ti'n Ifanc
  • Mr Phormula - Llais
  • Serol Serol
  • Y Cledrau - Peiriant Ateb
  • Yr Eira - Toddi