Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi carfan merched Cymru a chytundeb newydd i Ludlow
Mae rheolwr t卯m p锚l-droed merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer y g锚m dyngedfennol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019 yn erbyn Merched Lloegr.
Fe fydd t卯m Jayne Ludlow yn herio Lloegr yn stadiwm Rodney Parade, Casnewydd ar 31 Awst.
Daeth cadarnhad hefyd gan Gymdeithas B锚l-Droed Cymru bod Jayne Ludlow wedi ymestyn ei chytundeb am bedair blynedd i barhau fel rheolwr t卯m p锚l-droed merched Cymru.
Mae chwaraewyr profiadol megis Jess Fishlock, Sophie Ingle, Natasha Harding ac Angharad James i gyd wedi eu cynnwys.
Mae Kayleigh Green hefyd yn y garfan ar 么l iddi hi sgorio pedair g么l hyd yma yn yr ymgyrch, ond bydd Charlie Escourt yn absennol oherwydd anaf.
Bydd Ffion Morgan yn dychwelyd i'r garfan ar 么l bod allan gydag anaf a bydd Peyton Vincze o Oklahoma yn ymuno am y tro cyntaf ers mis Hydref llynedd.
Mae Cymru ar frig y gr诺p o un pwynt ar hyn o bryd, ond mae gan Loegr ddwy g锚m ar 么l i'w chwarae ble mai dim ond un sydd gan Gymru.
Pe bai Cymru'n trechu Lloegr fe fyddai t卯m y merched yn cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.
'her anoddaf'
Ond fe allai Cymru wynebu gemau ail gyfle pe byddan nhw'n gorffen yn ail yn y gr诺p.
Mewn cynhadledd i'r wasg ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau, dywedodd Ludlow fod y t卯m yn barod ar gyfer "her anoddaf" eu hymgyrch.
"Rydyn ni wedi bod ar daith hynod o ddiddorol, cyffrous, anodd (yn ystod yr ymgyrch)," meddai.
Ychwanegodd fod wynebu Lloegr yn ei gwneud hi'n "fwy cyffrous".
Dywedodd hefyd fod y t卯m yn "mwynhau'r awyrgylch" yn stadiwm Rodney Parade yn fawr, ac y byddai hynny'n rhoi mantais ychwanegol i Gymru.
"Rydyn ni'n gobeithio am grochan o gefnogaeth Gymreig brwd," meddai.
Carfan Cymru yn llawn:
Golwyr: Clair Skinner (Caerdydd), Olivia Clarke (Nettleham), Laura O'Sullivan (Cyncoed);
Amddiffynwyr: Loren Dykes (Bristol City), Sophie Ingle (Chelsea), Alice Griffiths (Caerdydd), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Rachel Rowe (Reading), Gemma Evans (Bristol City), Elise Hughes (Everton);
Canol Cae: Jess Fishloch (Seattle Reign), Hayley Ladd (Birmingham City), Angharad James (Everton), Nadia Lawrence (Caerdydd), Natasha Harding (Reading), Ffion Morgan (Caerdydd);
Ymosodwyr: Helen Ward (Watford), Kylie Nolan (Caerdydd), Peyton Vincze (Oklahoma), Kayleigh Green (Brighton).