Menter ailgylchu gwisg ysgol 'arloesol' yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ysgolion Sir Ddinbych yn rhan o fenter newydd sy'n galluogi pobl i gyfnewid ac ailgylchu gwisgoedd ysgol.
Dechreuodd y cynllun peilot, y mwyaf o'i fath yng Nghymru, yn Ninbych ond bellach mae wedi ei gyflwyno i drefi eraill ar hyd y sir.
Caiff gwisgoedd eu casglu o ysgolion cyn diwedd tymor yr haf a'u golchi a'u smwddio cyn eu bod ar gael i'r cyhoedd mewn siopau dros dro.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y cynllun wedi bod yn "lwyddiant mawr" yn yr ardal, a'i bod hi'n bwysig iawn fod teuluoedd yn derbyn cefnogaeth mewn amseroedd caled.
Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych sy'n gyfrifol am drefnu'r fenter, ac yn 么l Eleri Jones o'r cyngor mae'r gefnogaeth wedi bod yn "ffantastig".
Cynllun 'arloesol'
Mae'r prosiect, sydd wedi'i gefnogi'n llawn gan Gyngor Sir Ddinbych, yn weithredol yn Ninbych ers tair blynedd a bellach ar gael yn Y Rhyl a Rhuthun hefyd.
Yn ystod y gwerthiant diwethaf ym mis Awst 2017, gwelwyd dros 200 o gwsmeriaid yn dod i'r siopau dros dro i brynu gwisg ysgol.
Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych hefyd yn darparu cefnogaeth bellach o ran manteisio ar fudd-daliadau, prydau ysgol am ddim a materion sy'n ymwneud 芒 Chredyd Cynhwysol.
Dywedodd Lesley Powell, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, bod y cynllun yn "dwyn ynghyd rhieni, plant, ysgolion, staff a gwirfoddolwyr Cyngor ar Bopeth, cynghorau tref a sir a busnesau lleol" ac yn cael ei ddarparu "gan y gymuned er budd y gymuned".
"Byddwn yn cynnig archwiliad iechyd ariannol i deuluoedd os yw pobl am wneud yn si诺r eu bod yn derbyn eu holl fudd-daliadau a'u hawliau credyd."
Yn 么l Mr Hilditch-Roberts mae'r cynllun "arloesol" hwn yn llwyddiannus oherwydd "ymrwymiad gwirfoddolwyr a haelioni pobl wrth ddarparu gwisg ysgol".
"Gall prynu gwisg ysgol fod yn gostus i lawer o deuluoedd ac mae llawer o bobl bellach wedi gallu prynu gwisgoedd ar brisiau fforddiadwy heb orfod torri'r banc."
Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at fonitro llwyddiant menter eleni, gyda'r bwriad o gyflwyno'r cynllun i gymunedau eraill yn Sir Ddinbych yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018