Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Canllawiau cynllunio ddim yn parchu'r Gymraeg ddigon'
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn "anghyfreithlon" am nad ydynt bellach yn ystyried yn ddigonol effaith ceisiadau datblygu ar yr iaith Gymraeg.
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd ymgyrchwyr yn honni fod canllawiau cynllunio presennol Llywodraeth Cymru yn atal cynghorwyr rhag ystyried effaith iaith y rhan fwyaf o geisiadau datblygu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.
Yn 2015 daeth Deddf Cynllunio (Cymru) i rym ac roedd y ddeddf yn nodi bod y Gymraeg yn ystyriaeth statudol yn y gyfundrefn gynllunio.
Roedd y gyfraith, medd Cymdeithas yr Iaith mewn datganiad, yn "galluogi cynghorwyr i wrthod neu i ganiat谩u datblygiadau ar sail eu heffaith iaith ym mhob rhan o Gymru".
Ond bellach, medd y gymdeithas, wedi newid y llynedd does dim modd i "gynghorwyr ofyn am asesiad o effaith iaith datblygiad oni bai ei fod yn un 'mawr', 'ar safle ar hap' ac o fewn ardal sy'n cael ei diffinio fel un 'arwyddocaol' yn ieithyddol".
"Er gwaethaf pryderon Comisiynydd y Gymraeg a mudiadau iaith gwrthododd y llywodraeth newid y canllawiau yn ystod y broses ymgynghori," meddai Cymdeithas yr Iaith.
Yn dilyn cyngor gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis, mae cwmni cyfreithiol, Cyfreithwyr JCP, wedi anfon llythyr cyn-gyfreithia at y llywodraeth ar ran Cymdeithas yr Iaith, yn mynnu ei bod yn gollwng y polisi.
Bydd cychwyn y broses gyfreithiol yn un o'r pynciau trafod ar faes yr Eisteddfod ar stondin y gymdeithas ym Mae Caerdydd.
'Brwydr gwerth chweil'
Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Jeff Smith, cadeirydd gr诺p cymunedau Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r gymdeithas yn credu'n gryf bod y Gymraeg yn perthyn i bob rhan o'n gwlad, nid rhai ardaloedd yn unig.
"Ers dechrau datganoli, mae pob llywodraeth, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi pregethu a deddfu er mwyn gwneud hynny'n gwbl glir.
"Ond, pan ddaw hi at ganllawiau cynllunio mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod cydnabod yr hawl i gynghorwyr ystyried effaith iaith pob math o ddatblygiad.
"Er enghraifft, os nad yw ysgol Gymraeg yn rhan o stad newydd o dai yng Nghaerdydd, neu rywle arall yn y de-ddwyrain, mae canllawiau ein llywodraeth genedlaethol ni ar hyn o bryd yn atal cynghorwyr rhag ystyried yr effaith niweidiol ar y Gymraeg."
Ychwanegodd: "Nid oes sail gyfreithiol i'r [meini prawf newydd] sy'n cyfyngu'n sylweddol ar y disgresiwn y bwriedid ei roi yn gyfreithiol i awdurdodau lleol.
"Fe allai hon fod yn frwydr anodd, ond bydd yn frwydr werth chweil er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i'r iaith yn ein holl gymunedau."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i wneud sylw ar y mater ond maent yn dweud nad yw'n briodol iddynt wneud sylw ar unrhyw her gyfreithiol.