Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr fer ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.
Yn eu plith mae Gwyneth Glyn, Band Pres Llareggub, Serol Serol, Yr Eira a Gai Toms.
Bydd Blodau Gwylltion, Bob Delyn a'r Ebillion, Mellt, Y Cledrau a Mr Phormula hefyd yn cystadlu am y wobr.
Fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan reithgor o unigolion o'r diwydiant cerddoriaeth, gyda'r enillydd yn derbyn tlws wedi'i gomisiynu'r arbennig gan Ann Catrin Evans.
Y deg albwm ar y rhestr fer:
- Band Pres Llareggub - Llareggub
- Blodau Gwylltion - Llifo fel Oed
- Bob Delyn a'r Ebillion - Dal i 'Redig Dipyn Bach
- Gai Toms - Gwalia
- Gwyneth Glyn - Tro
- Mellt - Mae'n Hawdd Pan ti'n Ifanc
- Mr Phormula - Llais
- Serol Serol
- Y Cledrau - Peiriant Ateb
- Yr Eira - Toddi
Dyma'r pumed tro i'r wobr gael ei chyflwyno, a'r cyn-enillwyr yw Bendith, S诺nami, Gwenno a The Gentle Good.
Cyhoeddir enw'r enillydd mewn seremoni yn yr Eisteddfod ar ddydd Iau 9 Awst.