成人快手

Cyngor wedi gwario 拢400,000 yn rhentu adeilad gwag

  • Cyhoeddwyd
Mochdre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Cyngor Conwy benderfynu rhentu'r adeilad fel rhan o brosiect i arbed arian

Mae wedi dod i'r amlwg bod Cyngor Conwy wedi gwario bron i 拢400,000 o arian trethdalwyr yn rhentu adeilad gwag.

Fe wnaeth yr awdurdod arwyddo prydles ar gyfer yr adeilad yn 2016, gyda'r bwriad o'i ddefnyddio fel storfa ar gyfer lor茂au graeanu a lor茂au biniau.

Ond dyw'r cyngor ddim wedi gallu symud mewn oherwydd pryder am adeiladwaith y safle ym Mochdre ger Bae Colwyn.

Mae'r awdurdod nawr wedi cyrraedd cytundeb i beidio talu rhent tra bo'r problemau'n cael eu cywiro.

Prosiect arbed arian

Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod y cyngor wedi talu 拢391,561.64 mewn rhent rhwng Chwefror 2017 a mis Mehefin eleni, er bod yr adeilad a'r tir o'i gwmpas yn wag.

Mae Cyngor Conwy nawr yn ystyried ffyrdd o wella'r adeilad fel y gall symud mewn, ac maen nhw wedi comisiynu adolygiad i ddarganfod pam y gwnaethon nhw arwyddo prydles am safle nad oedden nhw'n gallu ei ddefnyddio.

Fe wnaeth yr awdurdod benderfynu rhentu'r adeilad ym Mharc Masnach Mochdre fel rhan o brosiect i arbed arian.

Y nod oedd cael un storfa ganolog ar gyfer holl gerbydau adran Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau'r cyngor, yn hytrach na defnyddio naw safle gwahanol fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor wedi gwario bron i 拢400,000 yn rhentu'r adeilad rhwng Chwefror 2017 a Mehefin eleni

Dywedodd cyfarwyddwr strategol economi a lleoliadau Cyngor Conwy, Jane Richardson: "Fe wnaeth y cyngor gymryd prydles ar y safle ym Mochdre i gasglu ein gwasanaethau amgylcheddol i un storfa, gan wneud y gwasanaethau'n fwy effeithlon yn y tymor hir.

"Ond wrth i ni ddechrau gosod offer yno cafodd problemau eu hadnabod oedd yn golygu nad oedden ni'n gallu symud mewn yn syth."

'Arolwg cynhwysfawr'

Dywedodd y cyngor bod cywiro'r problemau wedi bod yn anoddach gan fod y landlord gwreiddiol wedi gwerthu'r safle ar 么l i'r brydles gael ei harwyddo.

Ychwanegon nhw fod etholiadau Mai 2017 wedi golygu bod rhai o'r aelodau cabinet oedd wedi cymeradwyo rhentu'r safle bellach wedi gadael eu swyddi.

"Ry'n ni wedi comisiynu arolwg cynhwysfawr i ganfod y datrysiad gorau i symud mewn," meddai Ms Richardson.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r landlord, ac yn cael cyfarfodydd cyson gyda nhw, i adolygu'r wybodaeth sydd wedi'i gasglu a phenderfynu ar y ffordd orau i symud 'mlaen."

"Mae'r landlord wedi cytuno i beidio hawlio rhent tra bo'r trafodaethau yma'n parhau."