Profiad Cymro o'r ymladd a'r gwaith dyngarol yn Syria
- Cyhoeddwyd
Mae Aled Jenkins, dyn camera o Gaerdydd, wedi arfer 芒 gweithio mewn ardaloedd o ryfel. Ond yn ystod yr wythnos ddiwethaf, profodd fomio ac ymladd ffyrnig mewn ardal yn Syria lle roedd yn ffilmio gwaith dyngarol.
Mae'r rhyfel yn Syria'n achosi dinistr a dioddef yn ddyddiol, sydd erbyn hyn prin yn gwneud y newyddion.
Mae Aled yn egluro beth roedd yn ei wneud yn Syria, yr "argyfwng dynol" a welodd yno a'r foment pan gafodd orchymyn i ffoi rhag yr ymladd.
Dechreuodd y berthynas rhwng Unicef (United Nations Children's Fund) a fi n么l tua 2016 pan o'n i allan yn Iorddonen yn gweithio gyda Fifa ar gystadleuaeth Cwpan y Byd i ferched dan 17 yn yr Iorddonen.
Fel rhan o hwnna wnaeth Fifa ofyn i mi fynd lan i refugee camp Za'atari yn Iorddonen.
Dyma un o'r refugee camps mwyaf yn y byd, ac roedd 85,000 o bobl yna gyda Fifa yn rhedeg prosiectau p锚l-droed i blant ac yn cyflogi tua 80 o coaches.
Cysylltiad 芒 Unicef
Tra o'n ni yna gwrddais 芒 phobl Unicef ac ar 么l iddyn nhw weld y footage, wnaethon nhw ofyn i mi sut hoffwn ni ddod i weithio iddyn nhw.
Felly ers hynny rwy' wedi gwneud lot o waith allan yn y dwyrain canol. Prosiectau addysg ac am child labour - nid dim ond yng Nglwad Iorddonen ond mewn gwledydd fel Twrci a Lebanon hefyd.
Dyma sut ffeindies i fy hun yng nghroesfan Nasib yn Syria yr wythnos ddiwethaf. Cyn y rhyfel cartref, croesfan Nasib oedd y prif lwybr rhwng Damascus ac Amman. Ond mae'r ffin wedi ei chau gan lywodraeth Iorddonen ers 2015.
Mae'n agos at ddinas Dar'a, lle, saith mlynedd yn 么l, dechreuodd y gwrthwynebiad i'r Arlywydd Bashar al-Assad ar 么l i nifer o fechgyn ifanc gael eu harestio [a'u harteithio] am beintio sloganau yn erbyn y llywodraeth.
Mae Dar'a wedi parhau i fod yn bwysig yn y gwrthryfel, nid yn unig yn strategol ond hefyd am ei fod yn lle ysbrydoledig a symbolaidd.
Roedd Unicef yn ymwybodol fod argyfwng dynol yn digwydd yn yr ardal.
Tua chanol mis Mehefin, gyda chymorth cyrchoedd awyr Rwsia, trodd lluoedd Mr Assad eu sylw at drechu lluoedd y gwrthryfelwyr yn Dar'a a'r ardal gyfagos.
Wnaeth hyn achosi i 330,000 o bobol y ddinas ddianc o'u cartrefi a symud tuag at yr Iorddonen ac ardal Ucheldir Golan sydd dan reolaeth byddin Israel.
Fe wnaeth tua 60,000 o'r rhain orffen lan yng nghroesfan Nasib ar y ffin, yn y gobaith y byddai llywodraeth Gwlad Iorddonen yn agor y ffin, a'u gadael nhw mewn er mwyn dianc rhag y bomio. Ond ofer bu eu hymdrechion.
Bant 芒 fi!
Felly dydd Iau, 5 Gorffennaf, cefais fy anfon yno er mwyn ffilmio a thynnu lluniau o ymateb Unicef ac asiantau dyngarol eraill i'r argyfwng dynol yma. Roedd y sefyllfa'n drychinebus.
Roedd y tymheredd yn dringo i dros 40C, a phawb yn byw allan yn yr awyr agored.
Roedd y plant yn arbennig yn dioddef nid yn unig oherwydd s诺n y bomio enbyd, ond oherwydd y llwch a'r diffyg d诺r, bwyd, toiledau a chysgod. Roedd peryg hefyd o afiechydon yn ymwneud 芒 glendid, dehydration a heat rash. Ac roedd rhyw ddwsin wedi cael eu brathu gan scorpions a nadroedd.
Roedd byddin yr Iorddonen yn gadael y plant drwodd ar draws y ffin i gael triniaeth feddygol ar yr amod eu bod yn dychwelyd yn syth n么l i ochor Syria o'r ffin.
Y rhyfel gerllaw
Yr holl adeg, roedd lluoedd Mr Assad a milwyr Rwsia'n bomio ardaloedd tua 2.5km i ffwrdd, gyda shell yn glanio bob rhyw ddau neu dri eiliad am gyfnodau hir, wedyn ysbaid am ychydig cyn ailddechrau. Aeth hyn ymlaen trwy'r dydd.
Roeddwn yn gallu gweld llu awyr Rwsia yn taro targedau gerllaw. Roedd y ddaear yn crynu gydag impact yr ergydion o'r awyr, a'r s诺n yn cymryd eich gwynt i ffwrdd.
Ar y diwrnod cyntaf, dechreuodd y bombardio tua 08:00 y bore a phara tan nos, gyda bwlch rhwng 12:00 a 15:00. Roedd yn drwm ac yn gyson.
Fi wedi gweithio mewn sefyllfaoedd peryglus ac mewn war zones o'r blaen; yn Afghanistan ac unwaith yn cysgodi lluoedd arbennig America yn Helmand. Ond dwi ddim wedi profi bomio mor ffyrnig a chyson 芒 hyn ers rhyfel y Gwlff yn 2011, lle roeddwn yn ffilmio yn Irac.
Byw'n beryglus?
Dwi ddim yn bwrpasol roi fy hun mewn sefyllfaoedd peryglus. Y rhan fwyaf o'r amser pan chi'n cyrraedd war zone mae'r mwyafrif o'r ymladd drosodd, ond nid y tro yma.
Ond pan chi'n derbyn swydd fel hyn, gyda chorff fel y Cenhedloedd Unedig (UN), oedd yn cydlynu'r daith yma, chi'n gwybod eich bod chi mewn dwylo profiadol.
A dweud y gwir, er gwaethaf popeth a'r holl fomio, o'n ni ddim ar unrhyw adeg yn teimlo bod fy mywyd mwn perygl.
M.O.M!
Y diwrnod canlynol, 6 Gorfffennaf, roedd yr ymladd yn agosach fyth, ac erbyn tua 14:00, daeth gorchymyn gan y bobl ddiogelwch i ni adael yr ardal ar frys.
Erbyn i mi gyrraedd n么l yn Amman, ychydig dros awr i ffwrdd, sylwais fod tudalen Wikipedia croesfan Nasib wedi ei newid yn barod i ddweud ei fod wedi ei ail-gipio gan fyddin Syria.
Erbyn hyn, dim ond ychydig gannoedd o bobol sydd yn dal ar y ffin. Mae'r gweddill wedi dychwelyd i'w cartrefi [mewn trefi a phentrefi sydd hefyd wedi eu cymryd n么l gan y fyddin, a hynny yn sg卯l cytuneb rhwng Rwsia a'r gwrthryfelwyr].
Mi fydd rhai o'r dynion nawr si诺r o fod yn cael eu conscriptio i'r fyddin a'u danfon i ymladd mewn llefydd ymhell o'u cynefin - efallai yn erbyn ISIS, a bydd eraill yn wynebu carchar.
Diwedd pennod drist arall yn y rhyfel diddiwedd yma yn Syria.