Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Modd astudio meddygaeth ym Mangor yn 2019
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio meddygaeth yn llwyr yng ngogledd Cymru yn y dyfodol ar 么l i'r Ysgrifennydd Iechyd gyhoeddi cynlluniau i ehangu addysg feddygol ledled Cymru.
Mae disgwyl i'r cynlluniau ddod i rym yn 2019 yn sgil cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.
Yn ogystal bydd arian yn cael ei roi i ddarparu 40 o leoedd newydd i fyfyrwyr meddygol o fis Medi ymlaen - 20 yn ysgol feddygol Caerdydd ac 20 yn ysgol feddygol Abertawe.
Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cydweithio 芒 Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau mwy o gyfleoedd yn y gorllewin.
'Cydweithio yn lle ysgol feddygol newydd'
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cymaint 芒 phosibl o astudiaethau'r myfyrwyr yn digwydd mewn lleoliadau yn y gymuned er mwyn adlewyrchu eu polisi o sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu mor agos ag y bo modd at gartrefi'r cleifion.
Dywedodd yr ysgrifennydd, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi y bydd myfyrwyr nawr yn gallu dechrau'r daith at fod yn feddygon drwy astudio meddygaeth yn y gogledd.
"Daw hyn yn sgil cydweithio rhwng prifysgolion Cymru i fynd i'r afael 芒'r heriau sy'n ein hwynebu o ran cynnal ein gweithlu meddygol yng Nghymru."
Ychwanegodd ei fod "wastad wedi bod yn glir mai cydweithio fyddai'r ffordd orau o ehangu addysg feddygol" yn y gogledd, yn hytrach na chreu ysgol feddygol newydd.
"Mae hyn yn golygu y bydd modd rhoi trefniadau ar waith i fyfyrwyr allu astudio meddygaeth yn y gogledd yn llawer cynt na phe baem yn mynd ati sefydlu ysgol feddygol newydd."
Dywedodd hefyd bod angen "cydnabod yr heriau" mewn rhannau eraill o Gymru, ac y byddai felly'n "cynyddu'r niferoedd yn Abertawe ac yn eu helpu i gydweithio 芒 Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael yn y gorllewin".
'Newyddion da i gleifion'
Mae aelodau Plaid Cymru, Si芒n Gwenllian AC a Hywel Williams AS wedi croesawu'r penderfyniad gan ddweud: "Mae hyn yn newyddion ardderchog sy'n golygu y bydd meddygon am y tro cyntaf erioed yn cael eu hyfforddi ym Mangor.
"Mae tystiolaeth yn dangos bod meddygon yn aros yn yr ardal y cawsont eu hyfforddiant - mae'n newyddion da i gleifion sydd wedi bod yn aros yn hir am driniaeth oherwydd prinder meddygon.
"Ry'n yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando o'r diwedd."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: "Rwy'n falch iawn ein bod yn cynyddu niferoedd y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ac y bydd modd i fyfyrwyr astudio am raddau yn y gogledd a'r gorllewin.
"Rydyn ni wedi cydweithio'n agos 芒'r prifysgolion i wneud yn si诺r bod y lleoedd hyn ar gael cyn gynted 芒 phosibl, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am fynd ati i sicrhau bod y cynllun ehangu pwysig hwn yn cael ei wireddu."
'Datblygiad cyffrous'
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes ei fod yn "ddatblygiad cyffrous dros ben".
"Bydd y datblygiad hwn, fydd yn dechrau yn 2019, yn ein galluogi i fynd ati'n gyflym i ehangu'r addysg feddygol sy'n cael ei darparu ym Mangor ac i ddod 芒 rhagor o fyfyrwyr meddygol i'r gogledd.
"Bydd hyn o fantais i gleifion ac i'r cyhoedd, yn ddiamau."
Dywedodd Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd: "Mae'n rhoi cyfle gwych i adeiladu ar y berthynas sy'n bodoli'n barod rhyngom a Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yn ogystal 芒'r byrddau iechyd prifysgol cysylltiedig.
"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniat谩u inni fwrw ymlaen 芒'r gwaith o ehangu mynediad at feddygaeth a chynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gan fynd i'r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth."