RSPB i apelio yn erbyn penderfyniad t芒l parcio Ynys Lawd
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yr RSPB wedi dweud y byddan nhw'n apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor M么n i wrthod caniat谩u codi ffi am barcio ger Ynys Lawd.
Ddeufis yn 么l cafodd y cynlluniau i godi t芒l o hyd at 拢5 am barcio ger yr atyniad poblogaidd eu gwrthod gan gynghorwyr.
Cafodd y cynlluniau eu galw'n "anghyfiawn ac annheg" gan aelod o bwyllgor cynllunio'r cyngor, a ychwanegodd y byddai "goblygiadau iechyd a diogelwch difrifol".
Ond mae'r elusen nawr yn dweud eu bod wedi diwygio'r cynlluniau, a'u bod am apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor cynllunio.
'Angen incwm'
Wrth wrthod y cais gwreiddiol dywedodd y pwyllgor y byddai'r gost yn creu problemau y tu allan i'r maes parcio wrth i bobl geisio osgoi talu, ac o bosib yn atal pobl leol ac ymwelwyr rhag dod.
Ond dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB fod angen iddyn nhw gyflwyno tal o ryw fath er mwyn codi digon o arian i fod yn "gynaliadwy".
"Codi ffi parcio yw'r ffordd fwyaf priodol o godi incwm ychwanegol, sydd yn dod yn arferol i nifer o gyrff cyhoeddus ac elusennau sy'n edrych ar 么l atyniadau a pharciau cyhoeddus," meddai.
"Rydym yn deall ei fod yn bwnc sy'n cynhyrfu ac rydym wedi meddwl yn galed am y sylwadau a'r awgrymiadau sydd wedi'n cyrraedd ni. O ganlyniad rydym wedi datblygu pecyn o gonsesiynau pellach allai gael eu cyflwyno fel prawf."
Ymhlith yr awgrymiadau mae cynllun i ymestyn ffi flynyddol o 拢20 am gael parcio ger y safle yng Nghaergybi i holl drigolion Ynys M么n.
Maen nhw hefyd eisiau cyflwyno ffi o 拢2 yr awr am barcio yn yr haf, ac 拢1.50 yn y gaeaf, gyda chyfraddau dyddiol o 拢5 neu 拢2.50.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn bwriadu cyflwyno cais newydd yn fuan er mwyn ceisio cael caniat芒d ar gyfer y cynlluniau diwygiedig.
"Mae adeiladau Ynys Lawd wir angen eu hadnewyddu, a dyw adeilad y swyddfa ddim yn strwythurol saff," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018