Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pam fod ysgol yn dosbarthu llechi 'Stiniog ar draws y byd?
Mewn ychydig wythnosau, bydd darn bach o Flaenau Ffestiniog ym mhob rhan o'r byd, ac mae'r diolch i ddisgyblion Ysgol y Moelwyn.
Mae'r disgyblion yn anfon darn o lechen o'r dref at arweinydd 196 gwlad y byd, fel rhan o ymgyrch i roi statws safle treftadaeth UNESCO i ardaloedd llechi gogledd Cymru.
Ar bob llechen, mae logo G诺yl Lechi Bro Ffestiniog, sydd wedi ei baentio gan y plant, ac maen nhw'n gofyn am lun o'r arweinydd gyda hi.
Maen nhw'n barod wedi derbyn llun gan Jeremy Corbyn a Phrif Weinidog Lwcsembwrg, Xavier Bettel, gyda'u darn o'r garreg las.
Fel soniodd athro Daearyddiaeth yr ysgol, Gareth Davies, ar Raglen Aled Hughes fore Iau 28 Mehefin, mae'n brosiect ddynamig iawn, sy'n helpu'r plant 芒 nifer o wahanol bynciau - daearyddiaeth, iaith, mathemateg, hanes a gwleidyddiaeth.
Ond mae'n cyfadde' nad yw hi'n brosiect rhad.
"'Sa hi'n rhatach anfon cerdyn post! Costiodd hi jest o dan 拢5 i'w hanfon i Luxembourg. I rywle fel Fiji, mae hi tua 拢8. Mae o am gostio rhyw 拢1500 i'w hanfon i'r holl wledydd."
Ond yn anffodus, ni fydd arweinwyr Somalia, Yemen a Libya yn derbyn eu darn bach nhw o Ogledd Cymru, gan fod Swyddfa'r Post wedi gwrthod anfon y rhodd yno.
Mae'r criw nhw hyd yn oed wedi ceisio anfon un i'r gofod ar fal诺n. Mae'n debyg fod hwnnw wedi glanio yn y Cotswolds o flaen dynes ar gefn ceffyl... Fel ddywedodd Aled, efallai fod angen ail-feddwl hynny!
Mae mwy o lechi i'w hanfon, ac mae'r disgyblion yn aros yn eiddgar am fwy o ymatebion gan arweinwyr y byd yn datgan eu gwerthfawrogiad.
Mae Gareth yn si诺r y bydd y lluniau a'r llythyron yn heidio i mewn:
"Os ti'n cael llechen gan Blaenau, ti am gofio 'dwyt! Dio'm fel cael spaghetti o'r Eidal. Mae o bach o big deal!"
Hefyd o ddiddordeb: