成人快手

S锚r ifanc y Steddfod: Gwobr Richard Burton

  • Cyhoeddwyd

Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae rhai o actorion ifanc mwyaf addawol y wlad yn cystadlu am y fraint o ennill Gwobr Richard Burton.

Mae hon yn gystadleuaeth o safon uchel - ond a yw'r enillwyr yn mynd ymlaen i brofi llwyddiant yn eu gyrfa?

Dyma gipolwg ar rai o'r cyn-enillwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Daniel Evans wobr Richard Burton yng Nghwm Rhymni 1990 - y flwyddyn gyntaf i'r wobr gael ei rhoi. Roedd ond yn 17 oed. Mae wedi actio'n helaeth ar y teledu, ar lwyfan a'r sgrin fawr, ond y dyddiau yma, mae'n gwneud mwy o waith cyfarwyddo - ef yw cyfarwyddwr artistic Chichester Festival Theatre.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn Eisteddfod Nedd a'r Cyffiniau yn 1994, yr enillydd oedd Bethan Ellis Owen. Bethan sy'n chwarae Ffion ar Pobol y Cwm - cymeriad sydd wedi bod drwy'r felin gyda phroblemau ag alcohol, salwch ei merch ac ambell i dor-calon.

Ffynhonnell y llun, 成人快手/S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yn 1996, gwnaeth y beirniaid y penderfyniad annisgwyl i rannu'r wobr rhwng dau actor. Mae Manon Ellis wedi bod ar ein sgriniau bob nos Fawrth a Iau ar Rownd a Rownd yn chwarae y Michelle gegog ers blynyddoedd, ond mae'r cymeriad newydd adael i ddechrau ar fywyd newydd yng Nghasnewydd.

Ffynhonnell y llun, 成人快手/S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dyfrig Evans, y cyd-enillydd o Eisteddfod 1996 yn gyfarwydd i nifer fel actor a cherddor. Mae wedi actio mewn cyfresi teledu fel Rownd a Rownd, Y Gwyll a Darren Drws Nesa'. Ef yw prif leisydd y band Topper, oedd yn canu yn y 90au, ac sydd wedi ailffurfio yn ddiweddar.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr enillydd yn Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 oedd Carys Parry o Gwm Rhondda. Mae Carys bellach wedi symud o'r llwyfan i'r byd athletau ac wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad bedair gwaith am daflu'r morthwyl, gan gynnwys gemau'r Arfordir Aur 2018. Enillodd fedal arian yng ngemau Delhi yn 2010.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn Eisteddfod 2001 yn Ninbych, enillydd y wobr oedd Owain Arthur, ac roedd yn wyneb cyfarwydd i nifer am actio Aled yn Rownd a Rownd. Yn 2012, actiodd y brif ran yn y ddrama 'One Man, Two Guvnors', ar 么l i James Corden orffen yn y r么l, ac ynghyd ag amryw o rannau eraill, yn ddiweddar bu'n chwarae Glen ar 'Casualty'.

Ffynhonnell y llun, 成人快手/Ant Robling Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng Nghasnewydd yn 2004, Dyfan Dwyfor ddaeth i'r brig. Ers hynny, mae Dyfan wedi actio'n helaeth ar lwyfan ac ar sgrin, yn Gymraeg a Saesneg. Roedd yn y ffilm Y Llyfrgell yn 2016, oedd yn addasiad o nofel Fflur Dafydd, ac yn ystod haf 2018, mae'n actio'r prif gymeriad yn nrama Shakespeare 'Richard III' mewn theatr pop-yp yng Nghaerefrog, Rose Theatre.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Gwawr Loader yn 2006 yn Abertawe. Ers ennill, mae hi wedi cyflwyno, canu ac actio mewn amryw gynyrchiadau a rhaglenni teledu. Bellach, mae hi yn un o Bobol y Cwm yn actio Non, merch gyfrinachol Dyff Jones.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Garmon Rhys oedd enillydd y wobr yn 2011, yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro. Yn ddiweddar, mae wedi bod ar ein sgriniau yn actio PC Ryan Davies yn y gyfres Craith ar S4C, a'r fersiwn Saesneg ohoni ar y 成人快手, 'Hidden'.

Ffynhonnell y llun, 成人快手/S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr enillydd yn Eisteddfod 2016 yn Y Fenni oedd Rebecca Hayes. Y llynedd, chwaraeodd hi'r cymeriad Mel yn y gyfres lwyddiannus a phoblogaidd ar S4C yngl欧n ag ochr dywyll Port Talbot, Bang. Mae hi hefyd yn aelod o'r gr诺p Cadno.

Hefyd o ddiddordeb:

Mae cystadleuaeth Gwobr Richard Burton 2018 yn cael ei chynnal nos Fercher 8 Awst.