成人快手

Megan Williams: Nyrs oedd yna ar ddiwrnod cyntaf y GIG

  • Cyhoeddwyd
megan

Mae'n anodd dychmygu'r gwahaniaeth enfawr ar fywydau pobl gafodd sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd 70 mlynedd yn 么l.

Felly beth am i ni fynd i lygad y ffynnon am brofiadau rhywun oedd yna, yn gweithio ar y ff芒s fel nyrs o'r diwrnod cyntaf un!

Dyma brofiadau Megan Williams, sydd erbyn hyn yn byw yn Llanfarian, Aberystwyth:

Ar Mai 19 1945 mi ddechreuais fel nyrs ieuafiad (junior) yn Ysbyty Surbiton, Ewell Road, Surrey. Roedd yr ysbyty yma'n ganolfan hyfforddi i Ysbyty Guys, un o ysbytai mwyaf Prydain ar y pryd.

Wedi gadael cartref yn Aberaeron, Sir Aberteifi, a dilyn trywydd cyfnither i mi ar 么l argymhelliad gan y Cyngor Nyrsio Cyffredinol, mi ges i dair blynedd o weithio o dan yr hen drefn.

Dechrau yn y gwaelod

Fy nyletswyddau oedd paratoi brecwast, torri pum torth o fara a gwneud y gwelyau. Un o ieuafiad y gwasanaeth go iawn.

Os oedd un o'r cleifion yn canu cloch, roedd rhaid ateb y galwad - roedd nifer o gyn-filwyr yn ei phlith. Un o'r cyflyrau mwyaf cyffredin rhwng 1945 a 1948 oedd niwmonia.

Penicillin oedd y peth mawr jest ar 么l y rhyfel, beth fuasent yn ei alw heddiw yn wonder drug. Roedd 'na lot o waith paratoi gyda hwn, a gweini'r moddion ar 么l sterileiddiad.

Ar 么l dwy flynedd yn Ysbyty Surbiton, symud i fyny i Ysbyty Guys a oedd yn Stryd San Thomas, London Bridge.

Dechrau'r Gwasanaeth

Fan hyn roeddwn ni ar y 5ed o Orffennaf 1948 pan ddaeth y Gwasanaeth Iechyd i fodolaeth. Yn ymarferol, fel unigolyn doedd hwn ddim yn gwneud fawr o wahaniaeth i fy mywyd bob dydd fel nyrs dan hyfforddiant.

Roedd yna ddoctoriaid o America yn dod drosodd i wneud Fallows Tetrology i drin beth oeddent yn ei alw yn Blue Baby Syndrome. Hwn oedd dechreuad yr ymchwil a'r gwaith wnaeth arwain at open heart surgery yn Papworth wedyn.

Bues yn Guys am dair blynedd flinedig ond boddhaol fel oedd babi Aneurin Bevan yn tyfu ac yn ffeindio ei draed. Yn fan hyn, ro'n i'n edrych ar 么l cleifion oedd yn dioddef o'r dici芒u, y gwahanglwyf a pholio.

O'r crud....

Hyfforddi fel bydwraig wedyn yn y North Middlesex yn Hampstead a Kilburn ac wedyn ar Ebrill 23, diwrnod San Si么r, mi es i i Ysbyty San Si么r ar Hyde Park Corner am ddwy flynedd solet hapus.

Yn Llundain ar 么l y rhyfel, fel nyrs roeddwn yn teimlo ein bod yn cael ei gwerthfawrogi am ein gwaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Megan, sydd erbyn hyn yn byw yn Llanfarian, Aberystwyth

I fod yn agosach at y teulu, mi symudais n么l i weithio yn Ysbyty Treforys. Symud n么l i Lundain i hyfforddi wedyn fel ymwelydd iechyd yn Battersea a gweithio yng Nghaint tan i mi adael y Gwasanaeth Iechyd yn 1961.

Felly, 16 o flynyddoedd ges i yn gweithio i'r cyw-wasanaeth a gyda ni nawr yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 mi rydw i yn edrych n么l gyda balchder a gw锚n ar fy wyneb ar yr alwedigaeth wnaeth o gynnig i mi.

Pen-blwydd Hapus Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol oddi wrth un oedd yna o'r gyntaf un.