成人快手

Ateb y Galw: Esyllt Sears

  • Cyhoeddwyd
Esyllt SearsFfynhonnell y llun, Esyllt Sears

Y gomed茂wraig, Esyllt Sears, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Llwyd Owen yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Ro'n i tua dwy oed ac yn byw ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth. Ar waelod yr ardd, roedd afon fach yn gwahanu ni rhag cae o wartheg a 'wi'n cofio'n glir un bore, ro'n i gyda Mam yn ei hystafell wely yn edrych allan o'r ffenest ar Dad yn trio symud buwch oedd wedi crwydro i'n gardd ni o'r cae. A 'wi'n cofio ychydig ar 么l hynny, helpu Dad i gymysgu sment i godi wal fach i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Y person cynta 'wi erioed yn cofio ffansio oedd bachgen o'r enw Mark Morris. Bachgen yn yr un flwyddyn 芒 fi yn yr ysgol gynradd. O'n i'n meddwl bod e'n hollol c诺l. Gwallt spikey, wastad yn chwarae p锚l-droed neu'n siarad am y Lamborghini Countach. Ond hefyd, well i fi roi shout out i Jabas, Dafydd o Hapus Dyrfa a'r brawd h欧n o Honey I Shrunk the Kids.

Ffynhonnell y llun, S4C / 成人快手
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ffodus i Esyllt, mae Dafydd Hapus Dyrfa (Arwel Davies) yn dal i fod ar ein sgriniau, fel Eifion ar Pobol y Cwm

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae hyn yn beth ofnadwy i ddweud, ond dwi ddim yn berson sy'n teimlo cywilydd yn aml iawn, yn enwedig wrth fynd yn h欧n a dwi wedi 'neud rhai pethau yn y gorffennol y base rhai pobl yn cael haint o'u clywed. 'Wi'n credu bod neud ff诺l o'ch hunan yn rhan o dyfu a datblygu.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

'Wi'n cr茂o yn aml! Mae'n helpu i leihau straen. Ond 'wi'n credu mai'r tro diwethaf oedd un noson yn ddiweddar ar 么l cael diwrnod anodd gyda'r plant ac eistedd lawr yn y nos yn hollol shattered i geisio gwneud gwaith a teimlo mod i ddim yn neud cyfiawnder 芒 dim yn 'y mywyd i ar hyn o bryd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwarae gyda split-ends fy ngwallt. Dechreuodd yr holl beth pan o'n i'n adolygu ar gyfer arholiadau gradd - fel ffordd o ohirio gwaith. Galla i chware 'da nhw am hanner awr ar y tro.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Nefyn, Treorci, Cors Caron, Cwm Elan... mae yna gymaint! Yn bennaf oherwydd atgofion melys iawn o bobl a digwyddiadau.

Ond os oes rhaid i fi ddewis un lle, Bow Street fydde hwnna. Dyna lle ces i fy magu a dyna lle mae Mam a Dad dal yn byw. 'Wi wastad yn cerdded lan drwy'r pentre pan 'wi adre ac yn hoffi cofio'r holl lefydd oedd mor ddylanwadol a phwysig i fi pan yn fach.

O Archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Eto, mae sawl un! Ond mae 'na un noson sydd wastad yn sefyll allan. Pan yn byw yn Llundain, es i a ffrind i fi i noson glwb yn nwyrain y ddinas o'r enw Swaparama. Parti cyfnewid dillad oedd hwn mewn bar. Bydde DJ yn chwarae, yna bob nawr ac yn y man, trwy gydol y noson, bydde corn yn canu a rhaid i chi gyfnewid eitem o ddillad gyda'r person oedd yn sefyll drws nesa' i chi.

'Wi'n cofio fy ffrind yn dod 芒 llond bag o ddillad ei fam gyda fe i ni gael gwisgo yn lle gorfod colli ein dillad ein hunain. Roedd ei fam e'n farwnes felly roedd y dillad yn rhai lot rhy barchus, a neis! Yn anffodus, daeth y noson yma i ben yn 2008. Dwlen i tase rhywun yn ei hailddechrau. Sbort!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Control freak ('nai hawlio hwnna fel un!), ystyriol, ansicr.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Llyfr Saesneg - On Beauty gan Zadie Smith. 'Wi jest yn cofio dechrau ei ddarllen a methu ei roi lawr. Mae hi mor glyfar wrth ysgrifennu am ymwneud pobl 芒'i gilydd.

Llyfr Cymraeg - Yr unig lyfrau Cymraeg 'wi'n cael cyfle i'w darllen yw llyfrau plant. Ffefryn fi a'r plant ar hyn o bryd yw Y Lindys Lwglyd Iawn.

Ffilm Saesneg - Ffilm deledu Olive Kitteridge, gyda Frances McDormand. Dwlu ar Frances McDormand. 'Wi'n erfyn ar bawb sy'n darllen hyn i'w gwylio hi - llinyn stor茂ol gwych, cymeriadau syml o gymhleth, sinematograffi anhygoel. Mae'n delio gydag iselder, cenfigen, marwolaeth a galar... gallen i ei gwylio drosodd a throsodd.

Ffilm Gymreig - 'Wi hefyd yn erfyn arnoch chi i wylio Sleep Furiously. Ffilm am gymuned Trefeurig yng Ngheredigion - ddim yn bell o lle ges i fy magu. Mae'n gofnod hyfryd, torcalonnus ar gyfer cenedlaethau i ddod o gymuned yng nghefn gwlad Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Julia Louis-Dreyfus wedi ennill llawer o wobrau am ei r么l yn y gyfres 'Veep'

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Julia Louis-Dreyfus (comed茂wraig sydd wedi ymddangos yn Seinfeld, Curb Your Enthusiasm, Arrested Development, Veep). Hi yw fy arwres yn y byd comedi.

N么l yn yr 80au, fel cymeriad blaenllaw yn y gyfres Seinfeld, fe wnaeth hi chwalu lot o stereoteipiau comedi merched. Roedd hi'n gyflym, yn gorfforol, ar yr un lefel gomed茂ol 芒'r dynion. Y broblem yw, tasen i byth yn ddigon ffodus i gwrdd 芒 hi, sai'n credu fydden i'n gallu siarad, nag yfed...

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Oc锚, rhywbeth does neb yn gwybod... dwi ddim yn berson betio O GWBL ond adeg refferendwm Yr Alban, wnes i roi bet o 拢300 y base'r Alban yn pleidleisio dros annibynniaeth.

Ro'n i wedi bod yn darllen lot am yr ymgyrchoedd a wedi dechre cael y teimlad y gallen nhw jest a bod ei gwneud hi. Ac ro'n i newydd gael tax rebate sylweddol, felly meddyliais i, pam lai?

Wir, does neb o gwbl yn gwybod am hyn, ddim hyd yn oed y g诺r... tan nawr!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Betio ar ganlyniad y refferendwm? Mae popeth yn dod allan nawr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cyn cael plant, base'r ateb yma wedi bod yn gwbl wahanol ond nawr, mynd mas i farchogaeth peth cynta' yn y bore cyn i unrhywun arall ddihuno, bwyta ac yfed bwyd a diod da drwy'r dydd yn yr ardd gyda teulu a ffrindiau, wedyn cwtsho lan 'da'r plant a'r ci yn y gwely i wylio ffilm gyda'r nos.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Saesneg: Squeeze - Up the Junction. Dyma yw c芒n y g诺r a fi. Mae'n s么n am ferch o Clapham ac am Clapham Common, a dyna lle wnaethon ni gwrdd - mewn bar yn Clapham Old Town. Fe wnaeth fy nghyflwyno iddi. Bob tro 'wi'n ei chlywed mae'n fy atgoffa o'r cyfnod buon ni'n byw yna. Dim cyfrifoldebau enfawr, jest yn mwynhau dod i 'nabod ein gilydd.

Cymraeg: Bando - Tybed Wyt Ti'n Rhy Hen. Ma' rhywbeth am ganeuon Bando sydd jest yn swnio yr un mor ffresh heddi ag oedden nhw yn yr 80au.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dim Sum; Cinio dydd Sul Mam-gu; Crymbl mefus Mam gyda hufen i芒 fanila Sub Zero - gyda coct锚l Old Fashioned i ddechrau, digonedd o win drwy gydol y cyrsiau, a sieri Pedro Xim茅nez i orffen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydi Esyllt methu cael Kylie allan o'i phen...

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Kylie. O'n i wastad ishe bod yn Kylie pan o'n i'n fach.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Alun Saunders