成人快手

'Safiodd yr NHS fy mywyd'

  • Cyhoeddwyd
Mared Lenny neu Swci DelicFfynhonnell y llun, Swci Delic

"Does dim amheuaeth fod yr NHS wedi safio fy mywyd i," meddai Mared Lenny, yr artist o Gaerfyrddin.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn rhan annatod o'i bywyd wedi iddi gael llawdriniaeth frys i dynnu canser o'i hymennydd yn 26 oed.

Dywedodd fod y byd wedi "gorffen" iddi am gyfnod a hithau ar y pryd ar ganol recordio albwm newydd fel Swci Boscawen, y perfformiwr oedd yn canu caneuon fel Adar y Nefoedd a Couture C'Ching.

Fel Swci Delic, mae hi nawr yn artist sy'n adnabyddus am ei steil lliwgar, seicadelig sy'n deillio, meddai, o'r newid yn ei hymennydd ers ei llawdriniaeth.

"Yn 2010 pan ges i fy nharo'n wael a nghymryd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, cefais ddiagnosis yn gyflym o fewn rhai oriau, a hyn wnaeth achub fy mywyd," meddai Mared.

"Y t卯m yn Glangwili wnaeth ddarganfod y tiwmor yn fy ymennydd a fy nhrin cyn i mi gael fy nghludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd (yr Heath) lle gefais driniaeth frys y bore canlynol.

Dim pris

"Dwi nawr yn cael sganiau bob chwe mis yn Glangwili ac mae'r ffaith ei fod ar fy stepen drws yn golygu llawer tasen i'n cael fy nharo'n wael yn sydyn eto. Dwi wedi cael y gofal gorau ar yr NHS.

"Mae'n ymddangos y bydda i'n cael fy monitro gan fy oncologist am weddill fy oes, sy'n golygu sganiau cyson, apwyntiadau i'w dilyn gyda'r canlyniadau a help a chyngor os oes angen. Alla i ddim rhoi pris ar y gwasanaeth yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mared yn canu a recordio dan yr enw Swci Boscawen cyn i'w salwch effeithio ar ei gallu cerddorol

Yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth

"Mae'n hawdd cwyno am safon yr NHS os chi heb orfod derbyn help brys ganddynt. Dyw'r bobl yma ddim yn sylweddoli'r gwaith anhygoel mae'r NHS yn ei wneud dan amodau hynod o anodd.

"Mae yna newidiadau subtle iawn wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf ond dwi wedi bod yn ffodus i gael y gofal gorau heb ormod o newid yn bersonol.

Rhannu'r baich

"Dwi'n meddwl bod hi'n dod yn fwy amlwg bod angen i ni'r bobl ddechrau rhannu'r baich ychydig - hyd yn oed os yw e'n golygu rhywbeth bach fel talu am paracetamol ein hun, sy'n medru arbed llwyth o arian i'r NHS yn y pendraw.

"Dwi'n cofio clywed un tro wrth gerdded drwy dderbynfa Ysbyty Glangwili, menyw yn trio hawlio arian n么l am ei thocyn bws o'r pentref nesaf. Hollol hurt!"

Ffynhonnell y llun, Swci Delic
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mared gyda'i chelf lliwgar

Pwysigrwydd Glangwili i'r ardal

Wrth i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ystyried cwtogi gwasanaethau yn Ysbyty Glangwili, a chodi ysbyty newydd ar gyfer y gorllewin, mae cadw gwasanaethau brys yn ei hysbyty leol yn bwnc sy'n agos iawn at galon Mared.

"Ysbyty Glangwili yw prif ysbyty gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd maen nhw'n bygwth cau'r uned A&E er mwyn cyfuno holl anghenion brys pobl Sir Gaerfyrddin gyda phawb yn Sir Benfro drwy adeiladu uned newydd rhywle ar bwys tref Arberth, sydd 25 munud i ffwrdd o Ysbyty Glangwili," meddai.

Dywed y bwrdd iechyd "na all y statws quo barhau" ac y bydd lleihau nifer y prif ysbytai yn golygu fod llai o rotas meddygol i'w llenwi a rhestrau aros llai.

Ond mae profiad personol Mared yn golygu bod cael gwasanaeth ar stepen ei drws yn hollbwysig iddi.

"Fe all hyn olygu sefyllfa 'life or death' i rywun sydd mewn damwain ddifrifol yn ardal Caerfyrddin," meddai.

"Mae'r peth yn anghredadwy gan fod Glangwili yn chwarae r么l enfawr yn y sir gyfan nid dim ond i'r dref ei hun. Efallai'n wir bod angen gwella adnoddau'r ysbyty ond chi ddim yn gwella rhywbeth drwy ladd y peth!"