成人快手

Wylfa Newydd: Horizon yn cyflwyno cais cynllunio

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am ddatblygu atomfa Wylfa Newydd ar Ynys M么n wedi cyflwyno cais i'r Arolygiaeth Gynllunio am ganiat芒d i adeiladu'r prosiect.

Cyflwynodd P诺er Niwclear Horizon orchymyn cydsyniad datblygu (DCO) sy'n golygu rhoi manylion yr orsaf b诺er niwclear a'r gwaith cysylltiedig mae'r cwmni eisiau ei ddatblygu ar y safle.

Daw'r cyhoeddiad ar 么l i Lywodraeth y DU ddweud eu bod yn ystyried cyfrannu'n ariannol i adeiladu'r orsaf b诺er.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod y cyhoeddiad yn gam "allweddol" yn y broses.

'Cam allweddol'

Ddydd Llun, dywedodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU, Greg Clark yn Nh欧'r Cyffredin y bydd y llywodraeth yn trafod y byddsoddiad posib gyda chwmni Hitachi.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, mai "dyma fyddai'r prosiect isadeiledd mwyaf yng Nghymru am genhedlaeth", tra bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw am "sedd wrth y bwrdd" i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan yr Arolygiaeth Gynllunio o fewn 28 diwrnod.

Ffynhonnell y llun, Horizon

Ar y Post Cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd Mr Cairns bod Llywodraeth DU wedi "shifto polisi" drwy wneud buddsoddiad uniongyrchol yn y prosiect er mwyn "sicrhau ei fod yn llwyddiant".

Daeth cwynion gan Gadeirydd Cyngor Tref Amlwch, Gareth Winston Roberts fod pobl yn "siomedig" ac yn "rhwystredig" gyda'r diffyg sicrwydd ynghylch y cynllun.

Wrth ymateb fe ddisgrifiodd Mr Cairns y broses o sicrhau'r prosiect fel "her eithaf enfawr", ond fe wnaeth gydnabod fod y cam diweddaraf yn un "allweddol yn y broses".

Roedd cyflwyno'r cais cynllunio yn "arwyddocaol" meddai, ac yr oedd yn "falch iawn i glywed cymaint o gefnogaeth yn Nh欧'r Cyffredin" ddydd Llun.

'Diwrnod pwysig'

Mae Horizon hefyd wedi cyflwyno ceisiadau ar gyfer pedair trwydded arall: trwydded Forol, trwydded Hylosgi, trwydded Gollwng D诺r ar gyfer y Cam Gweithredu a thrwydded Gollwng D诺r ar gyfer y Cam Adeiladu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n rhaid esbonio sut y maen nhw'n bwriadu mynd o'i chwmpas hi o safbwynt technegol, logistaidd a chymdeithasol.

Dywedodd Duncan Hawthorne, prif weithredwr Horizon fod hwn yn "ddiwrnod pwysig".

Ychwanegodd: "Wrth i ni symud ymlaen at gam nesaf ein ceisiadau am drwyddedau, bydd y gwaith caled yn parhau, ac rwyf yn hyderus bod gennym ni d卯m gwych yn ei le i symud pethau ymlaen."

O fewn y mis bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn penderfynu os ydy'r cais am DCO yn diwallu'r safonau cadarn a fydd yn golygu bod modd ei dderbyn i'w archwilio.