Cefnogaeth i Vaughan Gething fel arweinydd Llafur Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Vaughan Gething wedi bod yn AC dros Dde Caerdydd a Phenarth ers 2011

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn "ffyddiog" y bydd yn denu cefnogaeth digon o ACau i sefyll yn ras arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Daw hynny wedi i bedwar o ACau'r blaid - Hefin David, Lynne Neagle, Joyce Watson a Vikki Howells - ddatgan mai Mr Gething oedd yn "sefyll allan yn glir" ymhlith "nifer o ymgeiswyr posib".

Fis diwethaf fe gyhoeddodd Carwyn Jones y bydd yn camu o'r neilltu fel prif weinidog ac arweinydd ei blaid yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.

Yr unig un sydd wedi datgan bwriad i geisio'i olynu hyd yn hyn yw'r Ysgrifennydd Cyllid ac AC Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford.

Er mwyn sicrhau lle ar y papur pleidleisio mae'n rhaid i unrhyw ymgeiswyr ddenu cefnogaeth o leiaf pump o ACau'r blaid.

'Positif'

"Dwi wrth fy modd fod gen i gefnogaeth nifer o fy nghydweithwyr," meddai Mr Gething wrth 成人快手 Cymru.

"Yn amlwg dwi'n ystyried ac fe hoffwn fod yn y ras i arwain ein plaid a'n gwlad. Allai ddim cymryd unrhyw beth yn ganiataol.

"Dyw hyn ddim yn golygu y byddai'n bendant yn rhan o'r ras, [ond] dwi'n bositif yngl欧n 芒 fy ngobeithion o fod yn rhan o'r ras."

Ychwanegodd ei fod yn "parchu" safbwynt yr ACau hynny oedd ddim eisiau datgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus eto.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Carwyn Jones ei gyhoeddiad yng nghynhadledd wanwyn y blaid fis Ebrill

Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies eisoes wedi dweud ei fod wedi cael "anogaeth frwd" a'i fod hefyd yn "ystyried" sefyll.

Ond mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi galw ar ei chyd-aelodau Llafur i beidio enwebu rhagor o ymgeiswyr am y tro nes eu bod wedi cael trafodaeth am gyfeiriad y blaid.

Ymhlith yr ymgeiswyr posib eraill sydd wedi'u crybwyll neu sydd wedi dweud eu bod am ystyried y peth mae Ken Skates, Jeremy Miles ac Alun Davies.

'Amrywiaeth'

Mewn datganiad o blaid Mr Gething ddydd Gwener dywedodd y pedwar AC fod angen defnyddio'r misoedd nesaf i drafod syniadau "gydag ymgeiswyr sydd eisoes wedi datgan".

"Mae angen i'n harweinydd nesaf gael profiad o lywodraeth, dealltwriaeth o hanes unigryw Llafur Cymru, a bod yn barod i adnewyddu'r blaid tra'i bod mewn grym," meddai'r ACau.

"Fydd Llafur Cymru ond yn llwyddo os yw hi'n adlewyrchu'r Gymru amrywiol tu hwnt sydd ohoni heddiw. Mae'n rhaid i'n harweinydd nesaf ymgorffori'r gobaith sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Hefin David fod Mr Gething eisoes wedi profi'i hun yn un o swyddi anoddaf y llywodraeth

Ychwanegodd y pedwar bod angen i'r arweinydd nesaf "warchod yn erbyn y posibilrwydd cynyddol" o gytundeb rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn y Cynulliad.

"Rydym felly'n cefnogi Vaughan Gething i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru a'r prif weinidog nesaf."

Ddydd Iau dywedodd arweinydd undeb mwyaf Cymru na fydd eu haelodau'n cael eu dylanwadu i newid eu meddyliau yngl欧n 芒 sut i ethol arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Ar hyn o bryd mae arweinydd y blaid yng Nghymru'n cael eu dewis drwy goleg etholiadol, sydd yn rhoi pwyslais gwahanol ar bleidleisiau ei gwleidyddion etholedig, yr undebau llafur, a'r aelodau cyffredin.

'Bachu syniadau'

Wrth siarad 芒 rhaglen Good Morning Wales ddydd Gwener dywedodd Mr David, un o'r ACau i arwyddo'r llythyr, ei fod yn "eithaf hyderus" y byddai Mr Gething yn cael yr enwebiad ychwanegol sydd ei angen arno.

Gwadodd fod y llythyr yn gwneud i Mr Gething edrych yn wan o'i gymharu 芒 Mr Drakeford, sydd eisoes ag wyth o ACau'n ei gefnogi.

"Mae angen i ni adnewyddu Llafur Cymru tra'n bod ni mewn grym. Mae Vaughan Gething mewn lle gwych i arwain yr adfywiad yna," meddai AC Caerffili.

Ychwanegodd fod Mr Gething wedi cael ei brofi yn "un o'r swyddi anoddaf" fel y gweinidog iechyd.

"Mae'n dda am fachu syniadau o nifer o ffynonellau gwahanol, o ACau, aelodau'r blaid a phobl o du hwnt i'r blaid Lafur."