Yr Eisteddfod yn lansio partneriaeth 芒'r gymuned LGBT
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn lansio prosiect newydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r profiad LGBT drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Mas ar y Maes yn bartneriaeth rhwng y gymuned lesbiaidd, hoyw, deuryw a thrawsryw (LGBT), elusen Stonewall Cymru a'r Eisteddfod.
Fe fydd y cynllun, sy'n gobeithio "cynyddu gwelededd a phresenoldeb" materion LGBT, yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghlwb Minskys yng Nghaerdydd am 18:00 nos Iau.
Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal yn y brifwyl ym Mae Caerdydd ym mis Awst, gyda digwyddiadau megis trafodaethau, perfformiadau a darlleniadau.
Daw'r cyhoeddiad union 30 mlynedd i'r diwrnod ers cyflwyno Adran 28 - rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 oedd yn gwahardd hyrwyddo materion LGBT gan awdurdodau lleol a s么n amdano mewn ysgolion.
'G诺yl groesawgar'
Dywedodd Gwenll茂an Carr o'r Eisteddfod Genedlaethol bod y prosiect yn "dangos bod yr Eisteddfod yn 诺yl groesawgar a chynhwysol i bawb sy'n byw yng Nghymru heddiw.
"Dyma bartneriaeth sy'n cynnig gogwydd gwahanol i'n gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol, a'r gobaith yw y bydd hyn yn annog rhagor o'r gymuned LHDT yng Nghymru i ddod i'r Eisteddfod, ac i sylweddoli pwysigrwydd a pherthnasedd yr 诺yl i bawb yma yng Nghymru."
Gr诺p llywio o'r gymuned LGBT yng Nghymru sydd wedi bod yn arwain ar y gwaith o greu rhaglen Mas ar y Maes, a'r gobaith yw y bydd yn "dod yn rhan flynyddol o'r 诺yl".
Dywedodd cadeirydd y gr诺p, Adam Price: "Mae 'na ddegau o filoedd o siaradwyr Cymraeg sydd yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws - ac eto prin mae eu cyfraniad wedi cael ei ddathlu o fewn ein diwylliant hyd yma.
"Ddylai neb yn ein Cymru ni heddiw deimlo pwysau i ddewis rhwng eu Cymreictod a phwy maen nhw'n caru.
"Pwrpas Mas ar y Maes felly yw meithrin ymwybyddiaeth a dathlu'r profiad LHDT drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddod 芒'r ddwy gymuned ynghyd.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol - fel ein prif 诺yl ddiwylliannol - yn llwyfan arbennig ar gyfer gwireddu'r ddelfryd honno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018