Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
M么n Mam cogyddion Cymru?
Ffynhonnell y llun, Brat
Wedi gwneud enw i'w hun ym mwyty Kitty Fisher's yn Llundain mae'r cogydd Tomos Parry o Ynys M么n wedi mynd 芒'i steil arbennig o goginio i'w fwyty ei hun, Brat, yn Shoreditch, gan ennill clod adolygwyr anodd-eu-plesio fel a .
Ond mae'r g诺r o Landegfan bob amser yn croesawu cyfle i ddod n么l i'w gynefin i chwilio am ysbrydoliaeth ac mae'n edrych ymlaen i wneud hynny ar gyfer G诺yl Fwyd Caernarfon ar 12 Mai.
"Bob tro dwi'n dod adre dwi'n cael ysbrydoliaeth newydd - fydda i ddim cweit yn aildanio'r batris achos mi fydd 'na ychydig o gymdeithasu si诺r o fod! Ond mae'n gyfle ei ailgysylltu gyda bwyd a chael syniadau newydd," meddai.
Mae Tomos yn ymuno efo Chris 'Foodgasm' Roberts i roi dangosiadau o goginio gyda th芒n o fewn waliau'r castell.
Ond bydd hefyd yn cymryd y cyfle i ymweld 芒 rhai o'r llefydd bwyta safonol sydd wedi rhoi enw da am fwyd i'w ynys enedigol.
"Mi fyddai'n mynd i'r Sosban, yr hen Butchers, ym Mhorthaethwy - maen nhw'n ffrindiau da ac yn gwneud pethau gr锚t a mi wnai fynd draw i Marram Grass yn Niwbwrch tra dwi adre hefyd - mae'r hogiau fanna yn gwneud yn gr锚t," meddai Tomos.
"Maen nhw'n defnyddio cynnyrch lleol, yn tyfu llysiau eu hunain ac yn magu moch - mae'r cynnyrch yn safon uchel iawn."
Dyna yw athroniaeth Tomos, sy'n defnyddio'r dull Basgaidd o goginio dros d芒n.
Ffynhonnell y llun, Brat
"Mae coginio efo t芒n yn dangos y cynnyrch yn well ac mae'n cwsmeriaid ni hefyd yn gallu gweld i mewn i'r gegin, felly mae'n fwy spectacular iddyn nhw weld y bwyd yn cael ei goginio dros d芒n.
"Mae rhywun yn defnyddio ei bum synnwyr wrth goginio'r bwyd yn y ffordd yma," meddai.
Dechreuodd diddordeb Tomos mewn bwyd pan ddechreuodd weithio mewn bwytai wrth y m么r ym Miwmares dros yr haf pan oedd yn 14 oed.
"Roeddan ni'n defnyddio cynnyrch lleol, mussels o'r Fenai, a llysiau o Hootons a jyst yn clywed oglau'r m么r - o'n i ddim yn sylweddoli ar y pryd ond, jyst gweld y cychod pysgota ac yn y blaen - mae o i gyd wedi dylanwadu," meddai.
Mae'r pwyslais yn Brat ar ddefnyddio cynnyrch lleol ac mae Tomos yn cynnig rhan fach o F么n ar ei fwydlen hefyd, sef wystrys o'r Fenai.
"Fyddwn i'n licio defnyddio mwy o gynnyrch Ynys M么n ond mae'n anodd ei gael yma o'r ynys," meddai, "dydi'r infrastructure ddim yn ddigon da - mae pethau wedi bod yn mynd dramor i lefydd fel Sbaen nid o fewn Prydain - ond mae'n gwella ychydig, a dwi'n siarad efo Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 gwella'r sefyllfa.
"Dim ond un peth da allai ddod o Brexit - bod pobl yn dechrau edrych fwy i mewn i beth sydd ganddon ni yn lleol yma!"
N么l i F么n
Mae'r Sosban yn un o ddim ond saith bwyty yng Nghymru sydd 芒 seren Michelin.
Un oedd yn gweithio yno gyda Stephen Stevens, cogydd a chyd-berchennog y Sosban gyda'i wraig Bethan, pan enillon nhw'r seren oedd Richard 'Pwdin' Holt sydd wedi dod adre i F么n dros yr haf i gael hoe o fod yn Brif Chef Crwst ym mwyty Marcus Wareing, The Gilbert Scott (sydd 芒 dwy seren Michelin).
Fel Tomos, gweithio ym mwytai lleol M么n oedd yr ysbrydoliaeth i Richard fynd yn gogydd hefyd - i ddechrau yn Marram Grass, lle mae wedi dod n么l i fod yn rhan o'r t卯m dros yr haf.
Ffynhonnell y llun, Richard Holt
Mae'r bwyty yn cael ei redeg gan y ddau frawd Ellis a Liam Barrie. Cyrhaeddodd Ellis rownd derfynol y Great British Menu 2017.
Aeth Richard i weithio yno yn syth ar 么l graddio mewn technoleg cerddoriaeth.
"O fewn mis i raddio ges swydd yn Marram Grass a nes i feddwl 'waw'," meddai Richard sydd o'r Talwrn yn wreiddiol.
"Nes i ddysgu mwy mewn mis yn Marram Grass na nes i mewn tair blynedd yn y brifysgol.
"Es i'n hooked ar ddysgu mwy wedyn.
"Ro'n i'n gwneud bob dim gynta' a wedyn nes i ffentro mewn i pwdins - roedd fel shining light yng nghornel y gegin.
"Wedyn wnes i'r cysylltiad fod gan Dad gwmni hufen i芒 anferth sy'n gwneud hufen i芒 dros y byd - fo bia'r unig machine yn y byd sy'n gwneud y Walls Vienetta!
"Roedd gan Mam fusnes cacennau hefyd ac mae gan fy anti ac yncl yn Cumbria siop siocled a dwi'n rili lyfio siocled ac wedi ennill dipyn o brofiad efo siocled erbyn hyn."
Er bod cael gwaith fel cogydd yn eitha' rhwydd, meddai Richard, mae gweithio ym mwytai gorau Llundain yn galed.
"Yn Gilbert Scott o'n i'n gweithio o chwech yn bora tan ddau y bora - mae'n anhygoel o tough, 'di o ddim yn iach," meddai.
Er bod swydd ar gael iddo gyda Marcus Wareing os yw am fynd n么l, meddai, mae'n dod adre i F么n er mwyn aildanio'r batris dros yr haf.
"Pan es i i Lundain o'n i'n meddwl mod i wedi ffeindio cartref ond ar 么l dwy flynedd o'n i methu disgwyl i ddod n么l i Ynys M么n, o'n i jyst angen yr awyr iach.
"Nes i ailddisgyn mewn cariad efo'r lle - mae Afon Menai mor brydferth ac mae'r aer yn glir; mae'r aer fel d诺r yma - yn Llundain mae o mor drwm.
"Mae'n braf cael bod yn styc tu 么l i dractor bob hyn a hyn! Does 'na ddim gymaint o frys ag sydd 'na yn y ddinas a ti ddim yn teimlo fel dy fod di ddim ond yn un person mewn miliwn."
Ffynhonnell y llun, Richard Holt
Ar 么l bod yn creu pwdinau fine dining mae Richard yn dyheu am wneud pethau mwy traddodiadol ac mae dylanwadau Cymreig ar ei fwyd hefyd - mae wedi creu caramel bara lawr a bara brith wedi ei wneud efo ffigys a malt extract, wedi ei weini gyda chaws glas Ynys M么n.
"Mae caws Ynys M么n yn anhygoel. Y caws glas yn arbennig - os 'dach chi'n gallu ffeindio caws glas o Ynys M么n 'dach chi'n sorted," meddai.
Y cam nesaf i Richard ydy mynd i galon y traddodiad patisserie yn Ffrainc - mae'n gobeithio symud i Baris i ddysgu'r grefft yn iawn ar 么l yr haf.
Cwestiwn amlwg efallai, ond sut gafodd o'r enw Richard 'Pwdin'?
"Mam sy'n galw fi'n Pwdin. Ond ddaru Marcus Wareing ofyn i fi 'What would pudding be in Welsh?' a nes i ddeud 'pwdin' - a ddaru o ddechra' ngalw i'n Pwdin hefyd!"
I weld rhai o'r creadigaethau sydd wedi rhoi ei enw i Richard 'Pwdin'