Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd am ddringo ar doeau yng nghanol Caernarfon
Mae pryder y bydd rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol yng Nghaernarfon wedi i bobl ifanc ddechrau dringo ar doeau yng nghanol y dref am hwyl.
Mae'r heddlu yn ceisio rhoi stop arnyn nhw ac yn rhybuddio am y peryglon.
Mae difrod wedi cael ei achosi i doeau hefyd, gan achosi rhwystredigaeth i fusnesau.
Fe wnaeth yr heddlu roi gorchymyn gwasgaru mewn grym ar gyfer canol y dref dros y penwythnos, sy'n golygu eu bod yn gallu gorfodi unrhyw un sy'n cael eu hamau o droseddu i adael yr ardal am hyd at 48 awr.
Dywedodd y Sarjant Non Edwards: "Mae gennym ni drend ar hyn o bryd bod plant a phobl ifanc yn mynd ar ben toeau busnesau yng Nghaernarfon gyda'r nos.
"Maen nhw'n dringo ar y toeau yn meddwl ei fod yn hwyl ond dydyn nhw ddim yn llawn sylweddoli beth ydy'r peryglon.
"'Da ni hefyd wedi cael troseddau o ddifrodi'r toeau. 'Da ni yn gweithredu yn eu herbyn nhw yngl欧n 芒'r difrod, ond y neges ydy pwysleisio'r peryglon.
"Dwi ddim eisiau bod yn curo drws eu rhieni nhw gyda'r nos yn dweud bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i un o'u plant nhw."
Dywedodd perchennog siop Panorama ar Stryd y Plas, Geraint Thomas, ei fod wedi dal criwiau o fechgyn ar do'r adeilad sawl gwaith.
"Dwi wedi trio deud wrthyn nhw - tasan nhw'n disgyn o ben to'r lle 'ma, dwi'm yn meddwl y byddai 'na lawer o obaith iddyn nhw," meddai.
"Disgyn i goncrit fysan nhw, a bysan nhw'n brifo'n ddrwg iawn tasa rhywbeth yn digwydd.
"Rhyw g锚m maen nhw'n ei chwarae, lle maen nhw'n trio neidio o un to i'r llall a mynd o grib i grib.
"Dwi'm yn meddwl eu bod nhw'n mynd ati i 'neud difrod bwriadol, ond mae llechi'n dod yn rhydd ac yn achosi difrod."