Galw am fwydydd figan mewn ffreuturau sector gyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymdeithas Figanaidd yn dweud eu bod yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod opsiynau figan ar gael mewn llefydd fel ysgolion ac ysbytai.
Yn 么l yr ymgyrchwyr, mae mwy a mwy o bobl yn dewis bwyta diet figanaidd ond dyw hynny ddim wastad yn cael ei adlewyrchu yn y dewis sydd ar gael mewn ffreuturau.
Mae'r elusen yn amcangyfrif bod tua hanner miliwn o figaniaid yn y DU, gydag ymgyrchoedd fel Veganuary yn mynd yn fwyfwy poblogaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen mai'r bwriad oedd sicrhau bod "dewis amgen da" i'r rheiny oedd ddim eisiau bwyta cig a chynnyrch anifeiliaid.
Iechyd a'r amgylchedd
Yn 么l y gymdeithas fe wnaeth 168,500 o bobl yn y DU gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni i fwyta bwyd figanaidd yn ystod mis Ionawr, gyda Chaerdydd yn un o'r dinasoedd ble wnaeth nifer uchel ymgymryd 芒'r her.
Mae Dafydd Williams, sydd yn athro o Gaerdydd, bellach yn dilyn diet figan gan ddweud ei fod yn ffordd o fwyta'n fwy iach a gwneud lles i'r amgylchedd.
"Mae'n galetach na beth oeddwn i'n meddwl i gael bwyd figan pan chi mas yn bwyta, oni bai'ch bod chi'n gwneud yr ymchwil ar y t欧 bwyta cyn mynd," meddai.
Mae'n dweud y byddai sicrhau bod mwy o opsiynau figanaidd ar gael yn sicr o fudd i'r rheiny yn dilyn diet o'r fath.
"Os chi eisiau opsiynau figan mae'n rhaid i chi ofyn amdano fe. Bydde fe'n help i rai staff, ond falle ddim i'r plant cymaint, oni bai eu bod nhw'n cael eu magu fel 'na gartref."
Mae'r elusen yn dweud bod rhesymau iechyd, lles anifeiliaid, a'r amgylchedd i gyd yn rhesymau pam bod pobl yn dewis bwyta bwyd figan, a bod mwy o fusnesau bellach yn darparu cynnyrch ar eu cyfer.
"Fe fyddwn ni'n deisebu'r seneddau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gofyn iddyn nhw ddarparu bwydlenni figanaidd ar bob bwydlen mewn ffreuturau sector gyhoeddus," meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas Figanaidd.
"Wrth hynny rydyn ni'n golygu llefydd fel ysbytai, ysgolion, carchardai, prifysgolion, swyddfeydd ac yn y blaen, unrhyw le lle 'dych chi'n mynd nid o ddewis ond oherwydd bod rhaid i chi fwyta.
"Os nad oes opsiwn figanaidd mewn llefydd felly, mae'n broblem achos does gennych chi ddim wastad ddewis amgen da."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017