成人快手

拢9.7m i wella gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Singleton

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Singleton, AbertaweFfynhonnell y llun, Google

Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi 拢9.7m er mwyn cefnogi gwasanaethau newyddenedigol ac 么l-enedigol yn Abertawe.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu Uned Gofal Trosiannol saith gwely ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Singleton - camau sydd 芒'r nod o wella ansawdd y gofal i famau a babanod a rhyddhau gofod yn yr Uned Gofal Dwys i'r Newydd-anedig.

Wrth gyhoeddi manylion y cyllid, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y byddai'r newidiadau'n caniat谩u i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ddelio 芒 nifer uwch o enedigaethau yn Ysbyty Singleton.

"Bydd hyn yn cynyddu'r gallu i drin mwy o gleifion, yn gyson 芒 chynigion a gyflwynwyd yng Nghynllun De Cymru," meddai. "Mae'n buddsoddiad yn Ysbyty Singleton yn dangos ein hymrwymiad i wella gwasanaethau ar draws GIG Cymru.

"Mae'r datblygiadau pwysig yn addo gwella ansawdd gofal i famau a babanod, gan ddarparu amgylchedd mwy diogel, a mynediad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos at nyrsys".

Bydd y buddsoddiad yn Ysbyty Singleton yn cynnwys:

  • Darparu Uned Gofal Arbennig Babanod 12 gwely parhaol;

  • Caniat谩u gofod i ehangu'r Uned Dibyniaeth Fawr;

  • Darparu gofod ar gyfer 9 cot gofal arbennig ychwanegol;

  • Darparu Uned Gofal Trosiannol 7 gwely 芒 gofal nyrsio arbenigol 24/7 i ofalu am fabanod sydd angen mwy na'r gofal 么l-enedigol arferol ond lle nad oes angen eu derbyn i'r uned babanod newydd-anedig;

  • Llety dros nos i famau, gydag ystafelloedd sengl a chyfleusterau ensuite i roi preifatrwydd a helpu i reoli heintiau;

  • Cynyddu capasiti'r Uned Dibyniaeth Fawr Newyddenedigol drwy ychwanegu dau got a'r Uned Gofal Arbennig Babanod drwy ychwanegu un cot.

Dywedodd Jan Worthing, Cyfarwyddwr Ysbyty Singleton, eu bod nhw'n croesawu'r buddsoddiad, sy'n cefnogi'r ymdrechion yn ne Cymru i ddarparu gwasanaethau mamolaeth "diogel ac o ansawdd uchel".

Bydd y gwaith, meddai, yn cychwyn ganol 2018 ac yn "digwydd fesul cam er mwyn sicrhau na fydd yn amharu ar y gwasanaethau."