成人快手

Cyhoeddi 拢25m i ofal newydd-anedig Ysbyty Glangwili

  • Cyhoeddwyd
GlangwiliFfynhonnell y llun, Google

Bydd 拢25m yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, tair blynedd wedi adroddiad beirniadol.

Bydd 拢3.1m ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau canser yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Daw'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru wythnos cyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi eu cynllun ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau'r ardal.

Mae'r opsiynau posib yn cynnwys cau un neu'r ddau o'r ysbytai.

Dim sicrwydd i Glangwili

Er y buddsoddiad, mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi methu rhoi ymrwymiad sicr y bydd Glangwili yn aros ar agor yn dilyn yr ad-drefnu.

Pan ofynnwyd iddo a oedd y buddsoddiad yn sicrhau dyfodol yr ysbyty, dywedodd Mr Gething: "'Da ni'n buddsoddi mewn gwasanaethau mamolaeth, am ei bod ni'n deall, beth bynnag sydd yn digwydd gydag ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, fyddai hi ddim yn dderbyniol i beidio buddsoddi oherwydd bod posibilrwydd o newid.

"Mae'r bwrdd iechyd yn gorfod parhau gyda'r ymgynghoriad 芒 staff a'r cyhoedd am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn y gorllewin.

"Mae hyn yngl欧n 芒'r gwasanaeth cyfan, nid dyfodol ysbytai yn unig."

Disgrifiad,

Dywedodd pennaeth bydwreigiaeth y bwrdd iechyd, Julie Jenkins, y bydd y buddsoddiad yn gwneud "lot o wahaniaeth"

Mae saith o'r naw opsiwn dan ystyriaeth gan Hywel Dda yn cynnwys cau ysbytai, yn 么l dogfennau gafodd eu rhyddhau'n gynharach eleni.

Dan un opsiwn byddai ysbyty mawr ar gyfer gofal brys a gofal wedi'i drefnu yn cael ei agor, gan olygu cau ysbytai Llwynhelyg, Glangwili a Thywysog Philip yn Llanelli.

Dywedodd Mr Gething bod yr arian ar gyfer Glangwili yn mynd i'r afael 芒 phryderon nad oedd y gwasanaethau mamolaeth yn addas i'w pwrpas.

Yn 2015, fe nododd adroddiad Y Coleg Brenhinol Pediatregol a Gofal Plant fod ward mamolaeth Glangwili yn "rhy fach" a bod "cyfleusterau annigonol yn rhoi profiad gwael i fenywod a staff".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Vaughan Gething gwrdd 芒 Deborah a'i hefeilliaid newydd-anedig, Alex ac Alfie, ar ei ymweliad 芒 Glangwili ddydd Iau

Bydd yr arian ar gyfer Glangwili yn cael ei wario ar welyau gofal dwys ac ystafelloedd i rieni, yn ogystal 芒 chynyddu nifer yr ystafelloedd geni, theatrau llawdriniaeth a llefydd adfywio.

Dywedodd Mr Gething y byddai'r arian yn "gwella safon, diogelwch ac arloesedd clinigol ar y safle".

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau cyn yr hydref, a gorffen erbyn 2020.

Yn y cyfamser, bydd 拢3m yn cael ei wario ar foderneiddio gofal hematoleg, oncoleg a gofal diwedd oes yn Ysbyty Llwynhelyg.

'Ansicrwydd'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Mae gwasanaethau newydd-anedig Llwynhelyg eisoes wedi eu colli.

"Tra bod y buddsoddiad o 拢25m yng Nglangwili yn cael ei groesawu, dylai fod yn arian ychwanegol yn hytrach na cheisio gwneud yn iawn am gau gwasanaethau eraill.

"Mae hefyd yn bryderus i weld diffyg cynllunio hir dymor ar gyfer gwasanaethau iechyd yn yr ardal, yn sgil yr ansicrwydd am ysbytai."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd 拢3.1m ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau canser yn Ysbyty Llwynhelyg

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Angela Burns bod y cyhoeddiad yn "creu ansicrwydd ynghylch ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wasanaethau mamolaeth a newydd-anedig".

"Wythnosau'n unig yn 么l cafodd dros 拢1m ei addo i ddatblygu achos busnes ar gyfer trefniadau yn y dyfodol, ac mae'r ymgynghoriad yna i fod i ddechrau'n fuan," meddai.

"Ond mae'r nawdd yma'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud penderfyniadau allweddol am ddyfodol gwasanaethau lleol."