成人快手

Beirniadu'r llywodraeth am ddileu grant gwisgoedd ysgol

  • Cyhoeddwyd
gwisg ysgol

Mae Sefydliad Bevan wedi beirniadu'r penderfyniad i dorri grant gwerth 拢700,000 oedd yn cynorthwyo teuluoedd tlawd i brynu gwisg ysgol i'w plant.

Fe wnaeth y grant gan Lywodraeth Cymru - oedd ar gael i ddisgyblion blwyddyn saith oedd yn gymwys i dderbyn cinio am ddim - gynorthwyo 5,500 o blant y llynedd.

Ond wrth gyhoeddi bod y grant wedi'i ddileu yn 2018-19, dywedodd Llywodraeth Cymru fod cost gwisgoedd ysgol wedi lleihau, a bod canllawiau i ysgolion am sut i gadw'r gost i lawr.

Dywedodd Sefydliad Bevan fod yr eglurhad yna yn gyfiawnhad gwan am doriad fyddai'n arbed swm bach o arian.

Arbed 'swm bach'

Dywedodd cyfarwyddwr y sefydliad, Dr Victoria Winckler, nad oedd y grant yn "berffaith" ond fod y penderfyniad i'w ddileu yn syndod.

Ychwanegodd y byddai'n "arbed swm bach o arian" ond yn cael "effaith ar nifer fawr o blant".

"Mae [gwisg ysgol] yn wariant sylweddol, yn enwedig os oes mwy nag un plentyn gyda chi - ac mae hynny'n dod ar ddiwedd cyfnod drud y gwyliau lle mae'n rhaid talu am brydau bwyd ychwanegol ac yn y blaen," meddai.

"I deuluoedd ar incwm isel, mae'n ergyd. Nid cyd-ddigwyddiad yw e fod cwmn茂au benthyca tymor byr yn brysur yr adeg yma o'r flwyddyn... dechrau'r tymor ysgol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cost gwisg ysgol yn gallu bod yn wariant sylweddol i deuluoedd 芒 mwy nag un plentyn, medd Sefydliad Bevan

Cafodd y grant ei gyflwyno yn 2005, gyda'r fersiwn ddiweddaraf yn cynnig 拢105 i ddisgyblion cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol uwchradd.

Roedd y grant yn cael ei weinyddu gan y cynghorau.

Ychwanegodd Dr Winckler: "Ry'n ni'n credu y byddai cymaint haws i Lywodraeth Cymru fynnu bod ysgolion yn galw am wisgoedd ysgol rhad fel y gallan nhw gael eu prynu mewn archfarchnadoedd, ac wedyn gwn茂o logo syml arnyn nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod nifer o ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru 芒 threfniadau mewn lle i gefnogi teuluoedd oedd yn cael trafferth gyda'r gost o wisgoedd ysgol.

'Cost yn lleihau'

Yn 么l llefarydd, roedd Llywodraeth Cymru wedi "blaenoriaethu" cyllid i awdurdodau lleol fel bod yr adnoddau yn "mynd yn syth i'r rheng flaen i gefnogi ysgolion a gofal cymdeithasol".

"Ers i'r grant gael ei gyflwyno mae cost gwisgoedd ysgol wedi lleihau'n sylweddol, ac mae'r argaeledd wedi cynyddu," meddai.

"Rydym hefyd wedi gweithio gyda chyrff llywodraethu ysgolion i annog yr ysgolion i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru am gadw cost gwisgoedd ysgol i lawr.

"Mae'n fater nawr i awdurdodau lleol gyflawni eu blaenoriaethau i ysgolion, gan ystyried eu cyfrifoldebau a chanllawiau'r llywodraeth am wisgoedd ysgol a pholis茂au perthnasol."