Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwrthod tai Penrhosgarnedd achos effaith ar y Gymraeg
Mae cynllun dadleuol i adeiladu 366 o dai ar gyrion Bangor wedi ei wrthod gan arolygydd cynllunio, yn rhannol oherwydd yr effaith y byddai'r datblygiad yn ei gael ar y Gymraeg.
Roedd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod rhoi caniat芒d cynllunio i'r datblygwyr ar ddau achlysur ar sail ieithyddol, ond yn 2016 fe apeliodd cwmni Morbaine yn erbyn y penderfyniad.
Fe olygodd hynny bod Llywodraeth Cymru'n edrych ar y mater.
Mae'r arolygydd nawr wedi ochri 芒 chynghorwyr Gwynedd, ac mae'r gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am faterion cynllunio, Lesley Griffiths, wedi derbyn yr argymhellion.
Dywedodd Morbaine nad oedden nhw am wneud sylw am y penderfyniad.
Pen y Ffridd
Roedd Morbaine eisiau codi cannoedd o dai ar dir ym Mhen y Ffridd ym Mhenrhosgarnedd.
Yn wreiddiol, fe wnaeth swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd argymell y dylai'r awdurdod lleol gymeradwyo'r cais.
Roedd y swyddogion yn dweud fod y tir wedi ei glustnodi ar gyfer codi tai fel rhan o'r cynllun unedol, yn nodi'r amod y dylai 30% o'r cartrefi fod yn fforddiadwy a bod Morbaine yn rhoi 拢1m tuag at ddatblygiad ysgolion lleol.
Ond penderfynodd cynghorwyr Gwynedd i bleidleisio yn erbyn y cais yn 2015, ac yna yn 2016 yn dilyn ap锚l.
Yn ogystal 芒'r effaith ar y Gymraeg roedden nhw'n dadlau na fyddai'r isadeiledd yn gallu dygymod gyda chymaint o dai, ac roedd gwrthwynebiad yn lleol gyda deiseb wedi ei threfnu.
Effaith 'bositif'
Pan gafodd y cais ei wrthod, dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio Morbaine, Keith Nutter, y "byddai'r datblygiad yn cael effaith bositif ar yr iaith" a bod traean o'r datblygiad wedi ei glustnodi fel tai fforddiadwy.
Ym mis Mehefin 2017, dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn "ystyried" cymeradwyo adeiladu'r 366 o dai ond y byddai'n disgwyl i gael mwy o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Ddydd Mawrth, penderfynodd yr Arolygiaeth Gynllunio i gefnogi safbwynt Cyngor Gwynedd, ac mae Ms Griffiths wedi derbyn yr argymhelliad.
Hwn oedd y cais cynllunio gyda'r mwyaf o dai i Gyngor Gwynedd ystyried.