Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Argymell cynllun rhodd i ymwelwyr 芒'r Wyddfa
Mae'n bosib y bydd ymwelwyr ag Eryri yn gallu cyfrannu tuag gostau cynnal a chadw'r parc cenedlaethol, fel rhan o gynllun newydd.
Mae cynllun i ofalu am ddyfodol Yr Wyddfa yn cael ei gyhoeddi gan Bartneriaeth Yr Wyddfa ddydd Llun.
Y bwriad yw mynd i'r afael 芒'r heriau a bygythiadau mae mynydd uchaf Cymru yn ei wynebu, gan geisio sicrhau'r dyfodol i'r mynydd a'r ardaloedd o'i amgylch.
Mae'r Wyddfa'n denu 500,000 o ymwelwyr yn flynyddol, gyda'r niferoedd yn rhoi pwysau ar dirwedd a chynefinoedd y fro.
Cynllun rhodd
Mae cynllun y bartneriaeth yn argymell cyfres o newidiadau i faterion fel parcio ac adeiladau'r ardal, a gweithredu cynllun rhodd ymwelwyr i gyfrannu at gostau cynnal a chadw.
Llynedd, fe wnaeth swyddog undeb amaethwyr awgrymu codi t芒l am gerdded Yr Wyddfa, gan ddweud bod 拢10 yn bris teg i wneud hynny.
Ar y pryd dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri y byddai'n anymarferol codi t芒l, ond bod cynllun peilot o roddion gan ymwelwyr sydd am warchod yr ardal ar waith.
Yn ogystal 芒'r cynllun rhodd, mae'r bartneriaeth yn awgrymu cael rhagor o siaradwyr Cymraeg i weithio o fewn y sector dwristiaeth awyr agored i helpu amddiffyn y tirlun.
Ymhlith argymhellion eraill y cynllun mae:
- Cefnogi a hyrwyddo cyfleoedd swyddi o ansawdd ar gyfer pobl leol;
- Datblygu a chefnogi prosiectau sy'n dathlu iaith a diwylliant ynghyd ag annog parch tuag at yr ardal;
- Gwella isadeiledd ac adeiladau i ymwelwyr;
- Annog gwelliant i wasanaeth bysia'r Sherpa a mynd i'r afael 芒 phroblemau parcio;
- Datblygu ac ehangu cynlluniau Ceidwaid Ifanc, Wardeiniaid Gwirfoddol a Llysgenhadon;
- Cynyddu nifer y Cymry Cymraeg sy'n gweithio yn y sector awyr agored.
Dywedodd Uwch Warden Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Helen Pye bod denu ymwelwyr yn "wych" i'r economi ond ddim heb "effeithiau a heriau", gan gynnwys trafferthion parcio, erydu llwybrau a ch诺n yn tarfu ar anifeiliaid fferm.
Ychwanegodd bod sawl agwedd i'r cynllun: "Mae sawl thema, a'r cynta' ydy trio 'neud yn si诺r bod pobl sy'n ymweld 芒'r ardal yn dechrau parchu mwy ar yr ardal, a byddwn ni'n 'neud hynny drwy'r wybodaeth 'da ni'n ei roi allan i bobl, 'neud yn si诺r bod wardeniaid a gwirfoddolwyr yna i roi gwybodaeth.
"'Da ni hefyd yn mynd i 'neud lot mwy o ran yr adeiladau yn yr ardal, yr isadeiledd, a thrio delio efo'r problemau parcio hefyd."
Dywedodd bod sawl gr诺p gwahanol wedi dod at ei gilydd i lunio'r cynllun: "Drwy weithio 'efo'n gilydd, fedrwn ni ddod yn lot fwy effeithiol am reoli'r ardal."