Ffrae'n corddi yngl欧n 芒 chodi t芒l i barcio ger Ynys Lawd

Ffynhonnell y llun, Melanie Davies

Mae ffrae yn corddi ar Ynys M么n yn dilyn penderfyniad RSPB Cymru i wneud cais i godi t芒l i barcio ym meysydd parcio eu safle ger Ynys Lawd.

Ar hyn o bryd does dim rhaid talu am barcio ond mae'r swm arfaethedig o 拢5 am ddiwrnod wedi cythruddo rhai o drigolion yr ynys.

Mae deiseb wedi ei llunio yn lleol a hyd yma mae bron i 400 o bobl wedi'i arwyddo.

Ond mae'r RSPB yn dweud eu bod yn gorfod codi t芒l er mwyn cael digon o gyllid i allu "parhau 芒'n gwaith cadwraeth".

'Gofyn llawer'

Yn 么l Maer Tref Caergybi, Ann Kennedy, mae'r hyn mae'r RSPB eisiau ei wneud yn annheg.

Dywedodd wrth raglen Y Post Cyntaf: "'Da ni'n byw mewn cyfnod o doriadau a r诺an mi fydd rhaid i bobl sydd wedi arfer dod yma dalu 拢5. Mae hynny'n gofyn llawer," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Does dim rhaid talu am barcio ar y safle ar hyn o bryd

"Efallai y byddai'n syniad gofyn i RSPB Cymru ailedrych ar eu cynlluniau ac efallai gadael i bobl dalu fesul awr yn hytrach na 拢5 am y diwrnod.

"Mae rhai yn dod yma am dro am tuag awr. Mae 拢5 yn ddrud os 'da chi'n ystyried hynny... ac mae'n rhaid cofio bod nifer hefyd yn gwario arian yn siop yr RSPB.

"Ond dwi'n meddwl y bydd gorfodi pobl i dalu am barcio yn golygu llai o ymwelwyr yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae Llinos Parry Jones (chwith) yn dweud bod yn rhaid cael cyllid i barhau 芒'r gwaith cadwraeth, tra bod Ann Kennedy yn teimlo bod codi t芒l yn annheg

Yn 么l Llinos Jones Parry o RSPB Cymru mae costau cynyddol yn golygu eu bod nhw wedi gorfod gweithredu.

"Mae'r penderfyniad i godi t芒l am barcio wedi bod yn un anodd a 'dy o ddim wedi cael ei wneud ar chwarae bach. Gobeithio y bydd pobl yn parhau i ddod yma," meddai.

"Mae'r 拢5 yna'n galluogi mynediad i'n holl wasanaethau ni yma ar y warchodfa.

"Er mwyn i ni gyrraedd y cyllid angenrheidiol 'da ni ei angen er mwyn parhau 芒'n gwaith cadwraeth yma, mae'n rhaid i ni ofyn i bobl dalu am barcio."