Disgyblion anabl angen 'gwell mynediad' yn yr ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i helpu ysgolion gwrdd 芒 gofynion disgyblion anabl, yn 么l Comisiynydd Plant Cymru.
Yn ei hadroddiad diweddar mae Sally Holland yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru eu canllawiau sy'n dyddio n么l i 2004.
Mae'r llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n gwneud yn si诺r bod disgyblion anabl yn cael "cefnogaeth lawn".
Wnaeth Immy, sy'n 12 oed ddim mynd i'r un ysgol uwchradd a'i ffrindiau o'r ysgol gynradd.
Mae'n dweud ei bod yn teimlo na fyddai wedi cael y mynediad oedd hi angen i lefydd am fod ganddi gadair olwyn.
Dylai mwy o gefnogaeth gael ei gynnig i blant ag anableddau sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd meddai.
"Yn aml mae 'na fwlch yn y gefnogaeth pan chi'n mynd i'r ysgol uwchradd. Doeddwn i ddim yn gallu mynd i'r ysgol uwchradd nes i edrych arni i ddechrau am nad oedd hi'n hygyrch nac yn addas i fi," meddai.
"Roedd hynny'n golygu nad oeddwn i'n gallu mynd i'r ysgol uwchradd gyda fy ffrindiau i gyd."
Mae hi nawr yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd, ysgol sydd wedi gwneud addasiadau yn y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys gosod rampiau a lifftiau.
"Er bod gyda ni i gyd anghenion gwahanol, mae'n braf i weld disgyblion eraill mewn cadeiriau olwyn yn yr ysgol hefyd," meddai.
Dilyniant o adroddiad gafodd ei wneud gan y Comisiynydd Plant ar y pryd, Keith Towler yn 2014 yw'r adroddiad yma gan Sally Holland.
Ar y pryd fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cyhoeddi canllawiau newydd erbyn mis Mai 2017 ond dyw hyn dal ddim wedi digwydd.
Cynhwysol
Mae'n dweud bod angen i gynghorau a Llywodraeth Cymru chwarae r么l fwy blaenllaw er mwyn helpu disgyblion gydag anableddau i fynychu'r ysgol maen nhw'n dymuno.
"Dw i eisiau gweld awdurdodau lleol yn cynnwys plant ag anableddau a'u teuluoedd i ddatblygu cynlluniau sydd yn gweithio iddyn nhw.
"Bydd y cynlluniau yn llawer gwell os maen nhw'n cynnwys y bobl maen nhw'n effeithio," meddai.
Mae'r adroddiad hefyd yn s么n bod yna:
Orddibyniaeth ar ysgolion unigol i gynllunio ar gyfer anghenion disgyblion gydag anableddau corfforol;
Dim ond un o'r 22 cyngor wnaeth ofyn barn pobl ifanc wrth ddrafftio ei strategaeth mynediad- dogfen sy'n nodi sut y byddan nhw'n gwella profiad disgyblion anabl yn yr ysgol;
Doedd pedwar o'r 22 awdurdod lleol ddim gyda'u strategaethau yn eu lle er bod hi'n orfodol yn gyfreithiol iddyn nhw wneud hynny;
Dim ond dau gyngor wnaeth gyhoeddi eu strategaeth mynediad ar eu gwefannau gan olygu bod hi'n amhosib darllen y ddogfen yn aml.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "datblygu canllawiau diwygiedig mewn ymgynghoriad 芒'r Comisiynydd Plant a bydd y canllawiau hynny ar gael ddiwedd y mis."
"Byddwn yn parhau i gydweithio 芒'r Comisiynydd Plant dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod y canllawiau'n rhoi cefnogaeth lawn i ddisgyblion anabl."
Mae 成人快手 Cymru wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd28 Awst 2017