Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am gysondeb i sganiau canser y prostad
Mae cleifion canser y prostad yn y gogledd yn galw am sgan sydd ar gael am ddim ar y GIG mewn dwy ardal arall yng Nghymru i fod ar gael i bawb.
Fe wnaeth rhai dynion sy'n cael eu trin yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddewis talu 拢900 am sgan cyn-biopsi i ganfod os oedd y canser ganddyn nhw.
Dywedodd y bwrdd iechyd nad yw'r sgan - mpMRI - yn argymhelliad ar hyn o bryd yn y canllawiau cenedlaethol.
Ond ychwanegodd llefarydd bod y defnydd o'r sgan yn destun adolygiad.
Nawr mae dau ddyn a dalodd am y sgan wedi dweud y dylai fod ar gael i bawb sy'n disgwyl am ddiagnosis.
Cost o 拢900
Mae elusen Prostate Cancer UK wedi dweud y gall mpMRI cyn biopsi wella diagnosis yn sylweddol.
Yn Lloegr mae'r sgan yn cael ei ddefnyddio mewn prawf sy'n ceisio cwtogi amseroedd diagnosis o chwe wythnos i ddyddiau yn unig.
Fe wnaeth Stuart Davies, cyn-gynghorydd sir o Langollen, gynnig biopsi arferol gan feddygon, ond dewisodd gael y sgan 拢900.
Dywedodd fod rhai dynion sy'n disgwyl profion ddim yn gwybod y gallai sgan o'r fath helpu gyda'r diagnosis, ond nid pawb fyddai'n medru ei fforddio.
Ychwanegodd Steve Roberts o Sir y Fflint: "Os nad y'ch chi'n medru talu, rydych chi'n cael eich gadael adre yn meddwl tybed yw'r canser ganddoch chi," gan ychwanegu nad yw'r prawf arferol mor ddibynadwy 芒'r sgan MRI.
Roedd y ddau ymhlith nifer o ddynion a ddaeth i wybod yn ddiweddarach bod byrddau iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn cynnig y prawf am ddim.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell mpMRI ar hyn o bryd, ond ei fod yn destun adolygiad.
Os fydd y cyngor yn newid, yna fe fyddai disgwyl i'r holl fyrddau iechyd ei ddarparu.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod yn cynnig ystod eang o brofion, gan gynnwys mpMRI, yn unol 芒 chanllawiau NICE.
Ond ychwanegodd y bwrdd ei fod yn adolygu'r defnydd er mwyn rhoi'r dewis gorau i gleifion prostad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn cefnogi amrywiaeth yn y ddarpariaeth o wasanaeth ar draws Cymru.
"Fodd bynnag rydym yn cydnabod bod clinigwyr weithiau 芒 barn wahanol am dystiolaeth cyn bod canllawiau NICE yn cael eu cyhoeddi."