Teyrngedau i John Griffiths o'r gr诺p Edward H Dafis

Disgrifiad o'r llun, O'r chwith i'r dde - Charli Britton, Hefin Elis, Dewi Pws, John Griffiths a Cleif Harpwood

Yn 67 oed bu farw John Griffiths - gitarydd bas y gr诺p poblogaidd Edward H Dafis.

Cafodd ei fagu a'i eni ym Mhont-rhyd-y-fen ger Castell-nedd, ac yno y treuliodd gweddill ei fywyd. Aeth i'r ysgol gynradd yno ac yna i Ysgol Ramadeg Aberafan.

Roedd Hefin Elis a Cleif Harpwood - dau aelod arall o'r gr诺p - yn ffrindiau bore oes iddo.

Yn 2012 cafodd lawdriniaeth fawr ar ei galon wedi iddo gael trawiad mewn gig yn Llanrwst.

'Dyn gwirioneddol hyfryd'

Dywedodd ei nith, Bethan Mair, wrth Cymru Fyw: "Dy'n ni ddim yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd, ond mae'n debyg ei fod wedi cael trawiad neithiwr wrth gerdded adref o'r clwb rygbi.

"Cafwyd hyd i'w gorff y bore 'ma gan gerddwr."

Ychwanegodd: "Gwas sifil oedd wncwl John ond ei gariad cyntaf oedd ei git芒r. Ro'dd e wedi dysgu ei hunan i'w chwarae.

"Mae'n dod o deulu cerddorol - yn gefnder i'r canwr Geraint Griffiths o Eliffant - ac mae fy mam i, sef ei chwaer, wedi ennill yn y 'Steddfod Genedlaethol am ganu cerdd dant.

"Ro'dd e'n ddyn gwirioneddol hyfryd. Doedd e ddim yn briod ond roedd ganddo lot fawr iawn o ffrindiau."

Wrth gael ei holi gan Cymru Fyw dywedodd Hefin Elis o'r gr诺p: "Roeddwn i yn yr ysgol gyda John ac wedi bod yn ffrind iddo ers hynny.

"Dyn addfwyn iawn oedd e - llawn hiwmor ac yn barod ei gymwynas.

"Fe oedd y gitarydd bas ond hefyd roedd e'n cyfrannu i Edward H fel llais cefndir. Magwraeth y capel wedi bod yn help mawr wrth gwrs i'w ganu a hefyd yr ysgol ym Mhont-rhyd-y-fen. Roedd Alwyn Samuel yn gryn ddylanwad arnom i gyd.

"Dyn yn y cefndir oedd John - do'dd e byth yn gwthio ei hun i'r blaen. Sioc fawr meddwl bod e wedi mynd."

'Enaid caredig a dirodres'

Mae nifer o deyrngedau wedi'u rhoi i'r cerddor ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd y gantores a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones bod John Griffiths yn "enaid caredig a dirodres" ac y bydd "colled fawr ar ei 么l".

Ychwanegodd yr actores Gillian Elisa Thomas ei bod yn cofio amdano fel "person addfwyn a thyner ac fel cerddor arbennig".

Mae'n gadael dwy chwaer - Dorothy a Nest.