Milltiroedd teithio bysus yn gostwng 20% mewn degawd
- Cyhoeddwyd
Mae cyfanswm y milltiroedd mae bysus yn teithio wedi gostwng i'w lefel isaf yn y DU mewn 28 mlynedd, gyda'r gostyngiad mwyaf trawiadol yng Nghymru.
Yma, mae nifer y milltiroedd wedi gostwng 20% yn y degawd ddiwethaf.
Yn 么l ffigyrau ddaeth i law'r 成人快手 fe wnaeth y pellter mae bysus yn teithio ostwng 15 miliwn o filltiroedd rhwng 2006/6 a 2016/17 - pellter sydd gyfystyr 芒 602 o deithiau o amgylch y byd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn rhoi darlun camarweiniol, heb fod yn gyflawn, a dros yr un cyfnod fod siwrneiau i deithwyr tr锚n wedi cynyddu 33%.
Yn 么l y gwaith ymchwil roedd gostyngiad o bron i hanner (46%), neu 11 miliwn o filltiroedd, o ran y teithiau oedd yn derbyn cymhorthdal, tra bu gostyngiad o 6% - tair miliwn o filltiroedd - o ran teithiau heb eu sybsideiddio dros y degawd ddiwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) eu bod yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bws, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ond fod siroedd dan bwysau ariannol mawr.
"Yn anffodus mae llai o ddefnydd wedi bod o fysiau, ac mae hyn yn ei dro yn tanseilio'r ddadl dros yr angen i barhau 芒 chymorthdaliadau ariannol sy'n cefnogi gwasanaethau," meddai.
Mae sawl ardal yng Nghymru wedi gweld gwasanaethau bysiau lleol yn crebachu neu'n diflannu'n ddiweddar.
Fe aeth cwmni Lewis Coaches o Lanrhystud, Ceredigion, i ddwylo'r gweinyddwyr yn Awst 2016, gyda'r cyngor sir a Llywodraeth Cymru'n gorfod ymyrryd er mwyn ceisio achub rhai o'r gwasanaethau.
Yn Rhagfyr 2017 bu'n rhaid i gynghorau sir Wrecsam a Dinbych ddod i'r adwy wrth i gwmni D Jones a'i Fab, o Acrefair gyhoeddi eu bod yn dod 芒'u gwasanaeth i ben, cyn iddynt golli eu trwydded.
Yn 么l elusen Age Cymru, heb wasanaeth bysiau dibynadwy fe allai pobl h欧n fynd i deimlo'n ynysig, a byddai hyn yn cael effaith gwael ar eu hiechyd.
Mae gostyngiad wedi bod hefyd yn y nifer y siwrneiau gan deithwyr, gyda 119 miliwn o siwrneiau yn 2006/2007 o'i gymharu 芒 100 miliwn yn 2016/2017.
Yn 么l CLlLC mae cyfundrefn drafnidiaeth gyhoeddus yn un o'r ffyrdd i wella'r amgylchedd ac mae'n fodd iddynt geisio cyrraedd eu targedau o leihau allyriadau carbon.
"Ond mae profiad yn dangos ei bod yn anodd perswadio pobl i roi gorau i'w ceir, er gwaetha'r gwelliant yn safon y bysus a'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig," meddai llefarydd ar ran CLlLC.
Dywedodd Marc Lewis, cyn-swyddog polisi gyda Chyngor Powys sydd nawr yn astudio doethuriaeth trafnidiaeth ym Mhrifysgol Bangor, fod rhannau o Gymru wedi dioddef wrth i wasanaethau ddiflannu.
"Mae cwmn茂au masnachol yn gallu rhoi'r gorau i gynnal gwasanaethau gyda rhybudd o ddim ond pythefnos," meddai.
"Rydym wedi gweld hyn mewn sawl ardal yng Nghymru.
"Rydym wedi gweld achlysuron lle mae cwmn茂au wedi rhoi'r gorau i wasanaethau yn Aberystwyth a does dim wedi dod yn eu lle.
"Yn fy marn i, yr ateb yw rhoi'r gorau i'r farchnad rydd, a dychwelyd i rwydwaith sy'n cael ei drefnu yn ganolog.
"Mae yna drefn sy'n bodoli yng Nghymru na fyddai byth yn cael ei ganiat谩u ar gyfer Llundain."
Cynlluniau Metro
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn rhoi darlun camarweiniol a heb fod yn gyflawn.
"Nid yw'n cydnabod fod twf wedi bod o ran rhai siwrneiau lleol, a bod gwasanaeth TrawsCymru yn hirach," meddai'r llefarydd.
"Tra'n bod ni'n nodi fod lleihad wedi bod yn nifer siwrneiau i deithwyr dros y degawd diwethaf, dros yr un cyfnod mae siwrneiau i deithwyr tr锚n wedi cynyddu 33%.
"Rydym am gael rhwydwaith drafnidiaeth integredig a bydd hyn yn ei dro yn gwella argaeledd trafnidiaeth leol.
"Mae ein buddsoddiad mewn cynlluniau Metro rhanbarthol yn y de ddwyrain, y gogledd ddwyrain ac ardal Dinas Abertawe yn dyst i hyn a bydd Trafnidiaeth Cymru yn adeiladu ar hyn yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2016