Y p芒r priod sy'n byw ar wah芒n

Ffynhonnell y llun, Beca Lyne-Pirkis

Mae'r pobydd a'r cyflwynydd Beca Lyne-Pirkis a'i g诺r yn byw ar wah芒n. Gyda Matt yn y fyddin yn Sandhurst a Beca a'i merched yng Nghaerdydd, beth yw'r realiti i deulu sydd wedi eu gwahanu oherwydd gwaith?

"Dwi 'di hen arfer jyst cario 'mlaen efo fy mywyd, gwneud popeth efo'r merched a gwaith," meddai Beca.

"I fi, mae'n normal i orfod 'neud popeth fy hunan ac mae'n gallu bod yn haws na dibynnu ar neb arall.

"Mae Matt a fi 'di bod 'da'n gilydd dros ddeng mlynedd, ond o'n ni wedi cyrraedd pwynt tua dwy flynedd yn 么l lle o'n i angen fwy o help gyda gwarchod y merched.

"Roedden nhw wedi cyrraedd oedran ysgol a beth o'n i ddim mo'yn 'neud oedd trafeili o gwmpas y wlad a dilyn ble bynnag oedd Matt yn gweithio, oherwydd fy ngwaith i ond hefyd i gael sefydlogrwydd i'r merched ac o'n i eisiau iddyn nhw fynd i ysgolion Cymraeg.

"Mae Matt fod dod n么l bob penwythnos, ond oherwydd natur y gwaith dydy hynny ddim yn bosib a weithiau mae e i ffwrdd am fis. Yn anffodus pan chi'n dechrau'n y fyddin chi'n gorfod rhoi'r swydd yn gyntaf."

Ffynhonnell y llun, Beca Lyne-Pirkis

Disgrifiad o'r llun, Mae Beca wedi symud i Gaerdydd o Sandhurst gyda'i merched Mari, chwech, ac Alys sy'n dair

Mae cadw mewn cysylltiad 芒 ffrindiau'n bwysig iddi, meddai Beca, sy'n disgrifio ei hun fel rhywun sy' "methu goddef eistedd adre yn gwneud dim byd", ond mae'n anodd weithiau i esbonio ei math o fywyd i'w ffrindiau.

"Pan oedden ni'n byw yn y camps oedd 'na network agos o wragedd a ffrindie ac oeddech chi'n helpu eich gilydd allan.

"Does gen i ddim hynna nawr, er bod gen i deulu a ffrindiau eraill yng Nghaerdydd. Dwi'n dal i siarad gyda llawer o'r gwragedd, maen nhw'n deall yn well na unrhyw un.

"Mae ffrindiau adre'n deall i bwynt pa mor gymhleth yw bywyd y fyddin, ond mae'n anodd esbonio i bobl sydd ddim 'di arfer byw'r math hwn o fywyd.

"Mae Matt wedi bod i ffwrdd yn Afghanistan, a bron 芒 chael ei ladd. Roedd hynny cyn i ni gwrdd, ond dwi'n ffodus bo' fi heb fod trwy hwnna ers cael y plant, mae gen i lot o ffrindiau sydd wedi ac mae'n horrible.

"Allai ddim hyd yn oed disgrifio'r peth, gyda phob galwad ff么n chi'n poeni beth alle fe fod."

Hefyd o ddiddordeb:

Er bod Beca'n cadw ei hun yn brysur ac yn bositif trwy weithio a gofalu am y merched, mae'n gallu bod yn anodd hefyd ar adegau, meddai.

"Mae'n anoddach ers cael y plant, pan mae un ohonyn nhw'n s芒l a dwi'n gorfod mynd i'r gwaith a gwneud popeth, ond chi jyst yn gorfod cario 'mlaen.

"Dy'n ni methu dibynnu ar Matt i fod n么l ar unrhyw amser penodol oherwydd natur ei swydd ond dy'n ni'n trial 'neud y sefyllfa byw mor normal 芒 phosib i'r plant.

"Mae Mari ac Alys wedi arfer bod Dad i ffwrdd, hyd yn oed pan oedden ni'n byw gyda'n gilydd.

"Maen nhw'n cyfri sawl cwsg sydd tan fod e n么l, ac wedyn pan ma' fe n么l dros y penwythnos ma' nhw'n wyllt am 48 awr yna ar fore dydd Llun mae popeth n么l i normal a Mam sydd in charge!

"Beth sy'n reit anodd i fi yw clywed bod ffrindiau'n mynd i yoga neu ymuno 芒 th卯m p锚l-rwyd gyda'r nos a dwi'n methu, ond y ffordd dwi'n dod rownd hwnna ydy gwahodd ffrindiau rownd i swper.

"Dwi'n neud yn si诺r fy mod i'n cael stwff yn y dyddiadur i gadw fi fynd."

Cael cysur o rannu ar-lein

Fel pobydd, cyflwynydd Parti Bwyd Beca ar S4C a chyn-gystadleuydd ar y gyfres deledu The Great British Bake Off, mae gan Beca ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae hi wedi cychwyn rhannu lluniau o'r bwydydd y mae hi'n eu coginio i'w hunan gyda'r nos ar ei chyfrif Instagram, er mwyn "estyn allan", meddai, at bobl sy'n bwyta swper-i-un, naill ai am eu bod nhw'n sengl neu'n byw ar wah芒n i'w partner am wahanol resymau.

Ffynhonnell y llun, Beca Lyne-Pirkis / Instagram

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r prydau bwyd y mae Beca'n eu coginio

"Mae cymaint o bobl yn bwyta ar ben eu hunain am wahanol sefyllfaoedd am eu bod nhw ddim efo rhywun neu bod y partner arall yn gweithio i ffwrdd lot, ond o'n i am estyn allan iddyn nhw a dweud mae'n iawn i chi wneud ff峄硈 o'ch hunan.

"Tua dwy flynedd yn 么l wnes i benderfynu rhoi pethe ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #solosuppers.

"Dwi'n cael lot o bobl yn cysylltu 芒 fi'n dweud eu bod nhw'n hoffi clywed am rywun sy'n neud rhywbeth tebyg iddyn nhw, gweld y swperau gwahanol i'w hysbrydoli nhw a neud ffws o'u hunain yn hytrach na 'neud darn o dost neu rywbeth i swper.

"Os ydw i'n s芒l, pwy sydd fod i edrych ar 么l y merched ganol nos? Rhaid i fi wneud yn si诺r fy mod i mor iach ag y galla i, dyna pam dwi'n 'neud e, a hefyd mae'n esiampl dda i'r merched i weld ni'n bwyta bwyd da. Mae'n bwysig trio edrych ar 么l eich hunan.

"Rydyn ni'n colli Matt ond mae e'n colli allan mwy. Ond dydy e ddim yn mynd i fod am byth. Dim ond pedair blynedd sydd ganddo ar 么l cyn ymddeol o'r fyddin felly'r gobaith yw y bydd yn cael swydd yn agosach i adre."