Disgyblion Bro Morgannwg 'yn colli 拢600 y flwyddyn'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr un cyngor yng Nghymru yn honni bod pob disgybl ysgol yn y sir "ar eu colled o 拢606 y flwyddyn".
Mae arweinwyr Cyngor Bro Morgannwg wedi ysgrifennu at bob rhiant yn yr awdurdod yngl欧n 芒 "than-gyllido" honedig.
Mae'r cyngor hefyd wedi tynnu sylw'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams at yr honiad.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau mai mater i bob cyngor yng Nghymru yw gosod eu cyllideb addysg eu hunain.
"Mae gennym rhai o'r ysgolion gorau a'r staff mwyaf galluog a brwdfrydig yng Nghymru yn gweithio yma ym Mro Morgannwg, ond mae system gyllido wallus yn eu tanseilio," medd arweinydd y cyngor, John Thomas.
拢5,628 y pen
Roedd yn beio fformiwla gyllido sy'n cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru i glustnodi cyllidebau sydd, meddai, yn dibynnu ar ddata o 1991.
"Mae'n anhygoel fod cyllido rhan bwysicaf ein gwaith o bosib yn cael ei bennu gan ddata sydd bron yn 30 oed," ychwanegodd.
Yn 么l ffigyrau swyddogol, mae 拢5,628 y pen yn cael ei wario ar ddisgyblion ysgol Cymru ar gyfartaledd yn 2017-18.
Ym Mro Morgannwg, mae'r gwariant yna yn 拢5,022 - 拢606 islaw'r cyfartaledd.
Addysg o 'safon uchel'
Ceredigion sydd 芒'r gwariant uchaf, sef 拢6,382 - 拢754 yn uwch na'r cyfartaledd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd yr un awdurdod lleol yng Nghymru yn gweld toriad o fwy na 0.5% y flwyddyn nesaf er gwaethaf toriadau o Drysorlys y DU.
Yn 么l swyddogion, fe welodd Bro Morgannwg gynnydd bychan yn y setliad diweddaraf - cynnydd o ryw 拢300,000.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl iddyn nhw gyrraedd yr un nod a ni sef addysg o safon uchel i bob plentyn, a gosod cyllidebau ar lefel sy'n rhoi'r adnoddau angenrheidiol i bob ysgol i adlewyrchu'r flaenoriaeth yma."