成人快手

Codi ymwybyddiaeth am ganser yr ysgyfaint

  • Cyhoeddwyd
canser ysgyfaint

Mae ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am ganser yr ysgyfaint yn cael ei lansio yn y gorllewin, yn dilyn ffigyrau sy'n awgrymu fod cleifion yno yn disgwyl yn hirach cyn holi am symptomau.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda sydd 芒'r raddfa uchaf o ddiagnosis hwyr am y clefyd yng Nghymru - sef 69% o'i gymharu 芒'r cyfartaledd cenedlaethol o 64%.

Dywedodd Dr Robin Ghosal, arbenigwr canser yr ysgyfaint yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, fod nifer o bobl yn ofni mynd at y meddyg, neu eu bod yn drysu symptomau gyda thrafferthion eraill sy'n gysylltiedig ag ysmygu.

"Mae gennym o hyd gyfran uchel o bobl sydd ond yn cael diagnosis ar 么l bod yn adran frys yr ysbyty," meddai.

"Erbyn hynny maen nhw yn aml iawn yn s芒l iawn, ac mae'r prognosis a'r triniaethau posib yn salach."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Robin Ghosal yn annog pobl i fynd am ddiagnosis cynnar os ydyn nhw'n sylwi am symptomau

Gwaethaf yn Ewrop

Cymru sydd 芒'r raddfa waethaf yn Ewrop am oroesi canser yr ysgyfaint.

Yn 2013, fe gafodd 2,300 o bobl ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru, ac mae cyfran gynyddol yn fenywod.

Mae ymchwil wedi dangos mai traean yn unig o'r rhai sy'n cael diagnosis sy'n goroesi blwyddyn gynta triniaeth canser.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mike Abel yn credu mai niwmonia oedd ganddo, ond fe aeth i weld ei feddyg yn ddigon buan

Un o'r rhai lwcus yw Mike Abel, sy'n 72 oed. Yn ysmygwr trwm, fe aeth i weld ei feddyg ar 么l diodde' peswch parhaus gydag ychydig o waed yn ymddangos.

"Ro'n i'n credu fod gen i niwmonia," meddai. "Doedd gen i ddim syniad y gallai fod yn ganser."

Cafodd ddiagnosis cynnar ac fe gafodd lawdriniaeth i dynnu rhan o un o'i ysgyfaint. Bum mlynedd yn ddiweddarach does dim golwg o'r canser.

"Dwi mor falch i fi fynd i weld meddyg pan wnes i. Fe wnaeth hynny fy achub, a rhoi ail gyfle i mi."

Dewsiadau'n gwella

Mae'r dewisiadau am driniaeth drwy lawdriniaeth neu gyffuriau yn gwella, ond maen nhw'n dibynnu ar ganfod yr haint yn gynnar.

Mae posteri'r ymgyrch yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn rhybuddio pobl am y symptomau i gadw golwg arnyn nhw, ac mae'r posteri wedi'u gosod mewn meddygfeydd ar draws y rhanbarth.

Ychwanegodd Dr Ghosal: "Os ydych chi'n cael peswch sy'n para fwy na thair wythnos, bod yn fyr o anadl, colli pwysau neu beswch gwaed, yna mae'r rheiny'n bethau sydd angen ymchwilio iddyn nhw.

"Gan ddechrau gyda phelydr-x syml i'r frest, fe fyddwn i'n annog pobl i fynd i weld rhywun."