Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chwe Gwlad: Buddugoliaeth yng ng锚m gynta鈥檙 merched
Chwe Gwlad Merched: Cymru 18-17 Yr Alban
Daeth buddugoliaeth i ferched Cymru yn eu g锚m gyntaf yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.
Roedd t卯m Rowland Phillips ar y blaen o 13-0 ar yr egwyl, ond fe ymladdodd merched Yr Alban yr holl ffordd i'r diwedd, gan ddod o fewn trwch blewyn o ddifetha parti'r Cymry.
Y sgorwyr i Gymru yn yr hanner cyntaf oedd yr asgellwyr Jess Kavanagh-Williams a Hannah Bluck.
Chloe Rollie ddaeth a chais cyntaf yr ymwelwyr, cyn i Lyn Kerin sgorio a chynyddu mantais y t卯m cartref.
Daeth Jade Konkel a'r Alban yn 么l i fod mewn pwynt o Gymru, ond llwyddodd y t卯m cartref i amddiffyn eu mantais.
Fe fydd Merched Cymru yn chwarae eu g锚m nesaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Lloegr yn Twickenham Stoop ar 10 Chwefror.