成人快手

Pryder am ganran marwolaeth adran frys Ysbyty Glan Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd

Mae 'na ormod o farwolaethau yn uned frys Ysbyty Glan Clwyd, yn 么l ffigyrau'r gwasanaeth iechyd.

Mae ffigyrau'r GIG yn dangos fod nifer y bobl sy'n marw yn adran frys yr ysbyty, yr uchaf yng Nghymru.

Yn 么l Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhan o'r broblem yw nifer uchel o boblogaeth h欧n yn y Rhyl, Sir Ddinbych, a'r ardal o gwmpas yr ysbyty.

Dywedodd AC Gorllewin Clwyd, Darren Millar nad yw hi'n "iawn" ei bod hi'n fwy tebygol i gleifion o ogledd Cymru farw mewn adran frys.

Roedd ffigyrau GIG Cymru yn dangos fod 30.4 o bob 10,000 person wedi marw ar 么l cael eu cymryd i'r adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017, sy'n llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 19.4 marwolaeth ym mhob 10,000 claf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Darren Millar AC fod gweithwyr yn y GIG Cymru wedi mynd ato'n pryderu am y niferoedd sy'n marw

Mae cyfradd marwolaethau yn yr adran frys Ysbyty Glan Clwyd, sydd wedi'i lleoli ym Modelwyddan, Y Rhyl wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru ers Gorffennaf 2012.

Dywedodd Mr Millar fod gweithwyr yn y GIG Cymru wedi mynd ato'n pryderu am y niferoedd sy'n marw.

"Mae gennyf lawer o gydymdeimlad i'r staff yn ein hunedau brys, sy'n gweithio i achub bywydau," meddai Mr Millar.

"Ond pan mae gyda chi ffigyrau o'ch blaen sy'n dangos fod cynnydd yn y nifer sy'n marw, ac eich bod yn fwy tebygol o farw mewn adran frys o'i gymharu ag eraill yng ngogledd Cymru, mae rhaid i chi ofyn y cwestiwn, beth sydd yn mynd o'i le yn yr adran frys yna.

"Dwi ddim yn credu ei bod hi'n iawn fod cleifion yng ngogledd Cymru yn fwy tebygol o farw os awn nhw i adran frys Ysbyty Glan Clwyd nac unrhyw adran frys arall yng Nghymru."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn gweithio'n galed i wella'r ffigyrau.

Dywedon nhw hefyd nad yw hi wastad yn bosib symud cleifion o'r adran frys i'r wardiau, fel mae modd mewn ysbytai eraill.

'Anghyfartal o fregus'

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Evan Moore: "Mae gan Ysbyty Glan Clwyd gyfradd farwolaethau craidd sy'n debyg i weddill Cymru, ond mae'r gyfradd farwolaeth yn yr adran achosion brys yn uwch nag yng ngweddill Cymru.

"Mae'r adran frys yn gweld tua 58,000 o gleifion yn flynyddol, mae nifer o resymau am y nifer uchel o farwolaethau - mae nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl yn dod i mewn gydag ambiwlans, ac rydym yn gwasanaethu poblogaeth uchel o'r genhedlaeth hyn ar hyd yr arfordir sy'n anghyfartal o fregus."

Dywedodd prif swyddog Cyngor Meddygol Cymunedol Gogledd Cymru, Geoff Ryall-Harvey: "Mi faswn yn disgwyl iddo [y ffigwr] fod yn uwch na rhai ardaloedd yng Nghymru, ond mae'n ymddangos yn uchel iawn.

"Mae sawl cyfnod wedi bod pan mae'r byrddau iechyd wedi bod yn rhoi cryn sylw i'r mater, ac mae wedi bod yn broblem o ran ei safon a'u pwyllgorau gofal, ond mae'n parhau i gynyddu."